Newyddion S4C

Stacey Dooley 'ddim yn mynd at yr heddlu' pe byddai'n cael ei threisio

11/03/2025
Stacey Dooley

Mae’r cyflwynydd teledu Stacey Dooley wedi dweud na fyddai hi yn mynd at yr heddlu pe byddai wedi cael ei threisio.

Mae Dooley wedi gwneud rhaglen ar gyfer y BBC sydd yn edrych ar yr oedi sydd yn y llysoedd ar gyfer y rhai sy’n honni eu bod wedi eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol.

“Os byddai rhywun yn fy nhreisio dwi ddim yn meddwl y byswn i yn mynd at yr heddlu, sydd yn beth digalon iawn i’w ddweud ac yn sylweddoliad siomedig iawn... Ond o safbwynt yr hyn dw i wedi gweld, fyddwn i ddim yn teimlo’n hyderus,” meddai wrth The Radio Times.

Mae Dooley hefyd yn dweud bod menywod wedi cael eu hysbrydoli gan Gisèle Pelicot. Cafodd Ms Pelicot o Ffrainc ei threisio gan ei gwr a nifer o ddynion eraill rhwng 2011 a 2020. Roedd Gisèle Pelicot yn anymwybodol pan oedd y trais yn digwydd am fod ei gwr yn rhoi cyffuriau heb yn wybod iddi.

Yn ôl y cyflwynydd teledu, mae’n bosib nad yw Ms Pelicot yn sylweddoli “maint yr hyn mae wedi gwneud ar gyfer menywod eraill” ar ôl iddi benderfynu siarad yn agored yn yr achos llys. 

Ddiwedd Medi’r llynedd roedd dros 73,000 o achosion heb eu datrys yng Nghymru a Lloegr.

Fe gyhoeddodd Y Farwnes Newlove adroddiad ddechrau’r mis oedd yn dweud bod nifer o ddioddefwyr o droseddau difrifol gan gynnwys trais, llofruddiaeth a lladrad yn gorfod disgwyl blynyddoedd am gyfiawnder.

Roedd yr adroddiad hefyd yn dweud bod dioddefwyr yn ei chael hi’n anodd ymdopi gyda‘r aros, gyda nifer yn cymryd cyffuriau neu yn hunan niweidio.

Yn ôl Prif Gwnstabl Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Sarah Crew, mae ymchwilio ac erlyn achosion o drais yn “un o’r heriau pwysicaf sydd yn wynebu’r system gyfiawnder”.

Dywedodd bod lluoedd yn “gweithio’n galed i wella ein hymateb i dreisio a throseddau rhywiol”.

Ychwanegodd bod lluoedd Cymru a Lloegr ynghlwm gyda chynllun newydd.

“Mae hyn wedi golygu bod heddluoedd wedi agor eu drysau i graffu gan academyddion annibynnol er mwyn edrych ar y ffordd mae’r heddlu yn ymchwilio treisio,” meddai. 

“Rydyn ni yn wynebu'r mater yma yn uniongyrchol, yn dryloyw ac yn ddigyfaddawd. Dyw’r broses yma ddim yn hawdd ond mae’n hanfodol.” 

Dywedodd hefyd bod gan Wasanaeth Erlyn y Goron ac asiantaethau eraill rhan i’w chwarae er mwyn taclo’r drosedd yma. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.