Newyddion S4C

Clwb rygbi yn y de yn ymddiheuro ar ôl defnyddio slogan 'nid ar gyfer merched'

Clwb rygbi yn y de yn ymddiheuro ar ôl defnyddio slogan 'nid ar gyfer merched'

Mae Clwb Rygbi Castell-nedd wedi ymddiheuro ar ôl cael eu beirniadu am ddefnyddio'r slogan "yn bendant nid yw hwn ar gyfer merched" wrth hyrwyddo  gêm. 

Roedd y clwb wedi amddiffyn eu penderfyniad i ddefnyddio'r slogan, gan ddweud mai'r bwriad oedd "ysgogi dadl".

Maen nhw bellach wedi ymddiheuro am achos unrhyw loes. 

Maent hefyd yn dweud bod menywod yn "rhan hanfodol" o'r clwb rygbi. 

Bydd y clwb yn croesawu Llangennech ar Y Gnol ar ddydd Gwener, 28 Mawrth ac roedden nhw'n hyrwyddo'r gêm ar eu cyfrif X.

Roedd eu neges yn cynnwys yr hashnod #NotForGirls a ddaeth i ben gyda'r neges: "Stay tuned... Nid yw popeth fel y mae'n ymddangos."

Fe wnaeth y neges ennyn ymateb chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol nos Lun.

Image
Datganiad Castell-nedd ar X
Neges Castell-nedd ar X

Dywedodd cyn-gapten Cymru a phrif hyfforddwr tîm Dan-18 presennol Cymru, Siwan Lillicrap, ar X: "Ni allaf gredu fy llygaid - cywilydd arnoch chi @neathrfc! Anwybodus, annerbyniol ac amhriodol."

Ysgrifennodd chwaraewr rhyngwladol Cymru, Cerys Hale: "Wel o leiaf mae’r adran sylwadau wedi rhoi rhywfaint o obaith i mi!

"Pwy yn y byd oedd yn meddwl bod y math hwn o farchnata yn dderbyniol?! Hollol warthus Clwb Rygbi Castell-nedd, rwy'n gobeithio y bydd unrhyw un sy'n gysylltiedig yn teimlo embaras llwyr.

"Os oedd unrhyw un yn cwestiynu pam rydyn ni'n teimlo'r angen i weiddi am gydraddoldeb..."

Dywedodd cyn-asgellwr Cymru, Lowri Norkett-Morgan: "Cwbl ffiaidd @neathrfc. Nid oes croeso i ferched @NeathPanthers yn eu clwb eu hunain. Cywilydd."

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru: "Fe wnaethon ni ofyn i Gastell-nedd i ddileu'r neges cyn gynted â phosib ac wrth gwrs nid ydym yn hyrwyddo'r safbwynt sydd ynddi."

Cafodd y neges, a gyhoeddwyd yn wreiddiol am 18:04 nos Lun, ei ddileu toc wedi 21:00.

Fe aeth y neges ymlaen i ddweud: "Darbi newydd Gorllewin Cymru. Nos Wener o dan y goleuadau.

"Dim ffrils. Dim ymddiheuriadau. Dim ond rygbi creulon, hen ffasiwn, nos Wener ar ei orau."

Roedd graffig a oedd yn cyd-fynd â'r neges hefyd yn cynnwys y slogan "nid i ferched".

'Menywod yn hanfodol'

Yn dilyn dileu'r neges wreiddiol, fe gyhoeddodd y clwb neges arall am 22.59 nos Lun yn amddiffyn eu sylwadau.

"Nawr bod gennym ni eich sylw… Anghofiwch y sŵn. Anghofiwch y dicter. Gadewch i ni siarad am newid go iawn," meddai'r clwb.

"Cynlluniwyd ein hymgyrch ddiweddar i ysgogi dadl, a deallwn y gallai fod wedi achosi dryswch a gofid i rai - ac yn gwbl briodol felly. 

"Nid yw ein hymrwymiad i dyfu a chryfhau Clwb Rygbi Castell-nedd - ar bob lefel - erioed wedi bod yn gryfach.

"Mewn byd lle mae gweithredu ystyrlon yn aml yn mynd ar goll mewn dadl ar-lein, mae Clwb Rygbi Castell-nedd yn adeiladu rhywbeth gwahanol.

"Yng Nghlwb Rygbi Castell-nedd, nid dim ond sôn am gynnydd yr ydym yn ei wneud - rydym yn ei fyw. Rydym yn cydnabod bod camsyniadau am rygbi menywod yn dal i fodoli - ond yn lle eu trafod yn unig, rydym yma i’w herio a’u newid."

Fe aeth y neges ymlaen i ddweud bod menywod yn "rhan hanfodol" o'r clwb.

"Nid yn unig y mae menywod yn ymwneud â Chlwb Rygbi Castell-nedd - maent yn hanfodol i’w lwyddiant," meddai'r clwb.

"Rydym yn falch o’r nifer uchel o gefnogwyr benywaidd sy’n dod bob wythnos, yn sefyll ochr yn ochr â ni drwy’r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau. Maen nhw’n rhan hanfodol o hunaniaeth a dyfodol ein clwb."

Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan Glwb Rygbi Castell-nedd.

Llun: Asiantaeth Huw Evans
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.