Newyddion S4C

Elusen Gymreig yn plannu 25 miliwn o goed yn Uganda

ITV Cymru

Elusen Gymreig yn plannu 25 miliwn o goed yn Uganda

Mae elusen Maint Cymru wedi cyrraedd eu targed o blannu 25 miliwn o goed yn Uganda.

Cafodd y goeden gyntaf ei phlannu yn 2010, gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun wedi’i ddatblygu gan Maint Cymru i gefnogi ffermwyr lleol yn Uganda, ac i reoleiddio’r hinsawdd yn well yno.

I ddathlu'r garreg filltir, fe wnaeth Maint Cymru groesawu ymweliad gan Deborah Nabulobi o Uganda. 

Mae Deborah yn rheolwr meithrin coed, sydd wedi elwa o’r cynllun:

"Mae'r prosiect yma wedi bod yn dda iawn i ni yn Uganda," meddai.

"Roedd gennym broblemau yr oeddem yn eu hwynebu gan fod llawer o goed yn cael eu torri i lawr heb eu disodli.

"Ers i ni ddechrau gweithio gyda Llywodraeth Cymru, a Maint Cymru... Mae llawer o bobl wedi croesawu'r prosiect."

'Chwarae ein rhan'

Mae ymweliad Deborah yn cyd-fynd â diwrnod gyda phlant Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant, i blannu coeden ar faes yr ysgol. 

Ers i’r plannu ddechrau yn 2010, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £4miliwn o arian trethdalwyr i’r cynllun. 

Ond wrth i gynghorau Cymru wynebu toriadau yn eu cyllidebau, wrth siarad gydag ITV Cymru, roedd rhai pobl ym Mhontyclun yn gwrthwynebu’r buddsoddiad yma:

"Rwy'n credu bod angen i ni helpu ein pobl ein hunain os ydw i'n onest gyda chi. Helpwch y rhai yng Nghymru cyn i ni helpu pobl dramor."

"Mae yna lawer o bethau sydd eu hangen arnom yma. Mwy o dai. Mae'r ffyrdd mewn tipyn o stad. Mae llawer mwy o bethau yma sydd angen eu gwneud."

Mewn ymateb i gwestiynau am y buddsoddiad i’r cynllun Maint Cymru, meddai llefarydd Llywodraeth Cymru:"Mae newid hinsawdd yn effeithio ar bob un ohonom, ac rydym yn camu i fyny i chwarae ein rhan yn y byd.

"Mae'r coed hyn yn gwarchod cymunedau rhag llifogydd a sychder, tra'n cysylltu plant ysgol Gymraeg ac Uganda yn ddiwylliannol a thrwy gyfleoedd addysg amgylcheddol ymarferol.

"Ar gyfartaledd mae'r cyllid ar gyfer y rhaglen plannu coed dros y 15 mlynedd diwethaf oddeutu £270,000 y flwyddyn, (tua 0.001% o'n cyllideb flynyddol)."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.