Rygbi: Tom Rogers a Josh Adams allan o'r gêm yn erbyn Lloegr oherwydd anafiadau
Ni fydd Tom Rogers na Josh Adams ar gael i wynebu Lloegr yng ngêm olaf Cymru yn y Chwe Gwlad oherwydd anafiadau.
Mae Rogers wedi cychwyn pob un gêm yn y gystadleuaeth eleni, tra bod Adams wedi cychwyn yn erbyn Ffrainc a'r Eidal.
Fe ddaeth cadarnhad ddydd Llun bod y ddau asgellwr wedi cael eu rhyddhau o'r garfan oherwydd anafiadau.
Dioddefodd Rogers, asgellwr y Scarlets anaf i'w arddwrn yn erbyn Yr Alban, ac fe fydd angen llawdriniaeth arno.
Roedd Josh Adams wedi colli'r gemau yn erbyn Iwerddon a'r Alban oherwydd anaf i linyn y gar, ond bellach fe fydd yn gwella o'r anaf hwnnw gyda'i glwb Caerdydd.
Er gwaethaf dechreuad gwael yn erbyn Yr Alban yn Murrayfield dros y penwythnos fe frwydrodd Cymru yn ôl yn yr ail hanner.
Ond nid oedd eu hymdrechion yn ddigon i ennill y gêm wrth iddyn nhw golli 35-29.
Mae disgwyl i brif hyfforddwr dros dro Cymru, Matt Sherratt, cyhoeddi tîm Cymru i wynebu Lloegr ddydd Iau.
Fe fydd Cymru yn gobeithio dod a'u rhediad o golli 16 gêm ryngwladol yn olynol i ben, yn ogystal â chwalu gobeithion Lloegr o ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Llun: Asiantaeth Huw Evans