Cymru Premier JD: Llansawel a’r Drenewydd yn cyfarfod mewn gêm dyngedfennol
Mae’n mynd i fod yn noson fawr yn y chwech isaf wrth i Lansawel a’r Drenewydd gyfarfod mewn gêm dyngedfennol yn y frwydr i osgoi’r cwymp.
Mae'r clybiau’n hafal ar bwyntiau a dim ond pum rownd o gemau ar ôl i’w chwarae.
Bydd Y Barri’n gobeithio cymryd cam yn nes at sicrhau’r 7fed safle a gwthio Aberystwyth yn agosach at y dibyn, tra bydd darbi Sir y Fflint yn mynd â’r sylw ar Gae y Castell.
Dim ond un gêm sy’n cael ei chwarae’n y chwech uchaf, a bydd y Seintiau’n anelu am eu 12fed buddugoliaeth yn olynol wrth groesawu’r Cofis i Neuadd y Parc.
Chwech Uchaf
Y Seintiau Newydd (1af) v Caernarfon (5ed) | Nos Fawrth – 19:45
Mae’r bencampwriaeth o fewn gafael i griw Craig Harrison sydd angen dim ond pedwar pwynt o’u pum gêm olaf i sicrhau’r tlws am y pedwerydd tymor o’r bron.
Ers colli’n Ewrop yn erbyn Celje ym mis Rhagfyr mae’r Seintiau wedi ennill 12 gêm yn olynol ym mhob cystadleuaeth gan godi 12 pwynt yn glir o Pen-y-bont (2il).
Mae Caernarfon wedi syrthio i’r 5ed safle ar ôl colli o 4-2 yn erbyn Met Caerdydd ddydd Sadwrn. Bydd y Cofis angen codi eu pennau cyn paratoi at y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.
Sgoriodd Blaine Hudson i Gaernarfon dros y penwythnos am yr ail gêm yn olynol, ond ni fydd yntau, Josh Lock na Jake Canavan ar gael yng Nghroesoswallt nos Fawrth gan fod y tri wedi ymuno â’r Cofis ar fenthyg o’r Seintiau Newydd.
Mae’r Seintiau wedi ennill 13 o’u 14 gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon. Er hynny y Cofis oedd yn dathlu ar ôl eu hymweliad diweddaraf â Neuadd y Parc gyda Louis Lloyd yn sgorio’r gôl fuddugol i dîm Richard Davies wedi 82 o funudau (YSN 1-2 Cfon).
Record gynghrair ddiweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Caernarfon: ✅➖❌✅❌
Chwech Isaf
Cei Connah (8fed) v Y Fflint (9fed) | Nos Fawrth – 19:45
Mae Cei Connah yn cadw’r pwysau ar Y Barri yn y ras am y 7fed safle, gyda’r Nomadiaid wedi ennill pedair o’u pum gêm ddiwethaf a chau’r bwlch rhyngddyn nhw a’r Dreigiau i bum pwynt.
Dyw tîm Billy Paynter heb ildio yn eu tair gêm ddiwethaf. Mae Rhys Hughes yn parhau i serennu yn y linell ymosodol wedi iddo sgorio gôl safonol arall yn erbyn Aberystwyth nos Wener, ei 11eg gôl gynghrair y tymor hwn.
Dyw’r Fflint ddim ond bum pwynt uwchben safleoedd y cwymp ac felly bydd Lee Fowler yn mynnu perfformiad gan ei garfan i geisio codi’n glir o’r gwaelodion.
Mae’r clybiau wedi cyfarfod deirgwaith y tymor hwn gyda Chei Connah yn ennill ddwywaith, yn cynnwys crasfa o 7-2 ar ddydd San Steffan, cyn i’r Fflint guro’r Nomadiaid o 2-1 ym mis Ionawr.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ͏ ❌✅❌✅✅
Y Fflint: ͏✅❌✅✅➖
Llansawel (10fed) v Y Drenewydd (11eg) | Nos Fawrth – 19:45
Pum gêm yn weddill a gwahaniaeth goliau’n unig sy’n golygu bod Llansawel yn eistedd yn niogelwch y 10fed safle, a’r Drenewydd yn nhywyllwch yr 11eg safle.
Mae’r ddau glwb ar 25 pwynt yr un, ond mae gan Lansawel saith gôl o fantais dros y Robiniaid er i dîm Andy Dyer ildio saith gôl yn eu dwy gêm ddiwethaf.
Roedd rheolwr Llansawel yn gandryll wedi i’w garfan ildio yn yr eiliadau olaf i golli gêm ddramatig yn erbyn Y Barri nos Wener (Llan 3-4 Barr).
Ildiodd Y Drenewydd yn hwyr nos Wener hefyd gan orfod rhannu’r pwyntiau gyda’r Fflint er i dîm Callum McKenzie fynd ar y blaen ddwywaith yn y gêm (Dre 2-2 Ffl).
Mae hi wedi bod yn amhosib gwahanu’r clybiau hyd yma’r tymor hwn ar ôl tair gornest rhwng y ddau dîm gyda’r Drenewydd a Llansawel yn ennill unwaith a chael un gêm gyfartal.
Mae ymosodwr Y Drenewydd, Aaron Williams wedi sgorio’r gôl agoriadol yn y dair gêm rhwng y clybiau ac mi fydd yn awyddus i ychwanegu at ei naw gôl gynghrair y tymor hwn.
Record gynghrair ddiweddar:
Llansawel: ➖❌✅❌❌
Y Drenewydd: ͏ ➖❌➖✅➖
Y Barri (7fed) v Aberystwyth (12fed) | Nos Fawrth – 19:45
Roedd hi’n fuddugoliaeth arbennig i’r Barri nos Wener gyda Ollie Hulbert ac Ieuan Owen yn taro ddwywaith yr un ar yr Hen Heol (Llan 3-4 Barr).
Mae’r Barri felly’n parhau bum pwynt yn glir yn y ras am y 7fed safle ac yn gobeithio cystadlu’n y gemau ail gyfle am y tro cyntaf ers tymor 2020/21.
Mae Aberystwyth mewn sefyllfa peryglus eithriadol, wyth pwynt o dan diogelwch y 10fed safle gyda dim ond pum gêm ar ôl i’w chwarae.
Mae’r clwb o Geredigion wedi colli saith o’u wyth gêm ddiwethaf ac wedi methu a sgorio yn eu pedair gornest ddiwethaf.
Mae Aberystwyth a’r Drenewydd wedi bod yn aelodau di-dor o Uwch Gynghrair Cymru ers 1992, ond mae’r ddau glwb o’r canolbarth mewn perygl o syrthio i’r ail haen eleni.
Enillodd Aberystwyth o 1-0 gartref yn erbyn Y Barri ym mis Awst, ond mae’r Dreigiau wedi curo’r Gwyrdd a’r Duon ddwywaith ers hynny gyda Ollie Hulbert yn rhwydo yn y ddwy gêm.
Record gynghrair ddiweddar:
Y Barri: ✅✅➖❌✅
Aberystwyth: ͏❌✅❌❌❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.