Gwynedd: Darganfod corff dyn yn ei 70au ar draeth
10/03/2025
Traeth Fairbourne
Mae corff dyn 72 oed wedi cael ei ddarganfod ar draeth yng Ngwynedd.
Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru iddo gael ei ddarganfod yn Fairbourne ger Y Bermo.
Mewn datganiad dywedodd yr heddlu: "Cafodd swyddogion eu galw i draeth yn Fairbourne wedi adroddiadau bod corff wedi cael ei ddarganfod yn y dŵr ar ddydd Gwener 7 Mawrth.
"Mae ein cydymdeimlad gyda theulu'r dyn 72 oed."
Ychwanegodd yr heddlu nad oedd y farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod.