Newyddion S4C

Arestio dyn 59 oed ar ôl i long gargo wrthdaro â thancer olew ym Môr y Gogledd

11/03/2025

Arestio dyn 59 oed ar ôl i long gargo wrthdaro â thancer olew ym Môr y Gogledd

Mae dyn 59 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad trwy esgeulustod dybryd wedi i long gargo wrthdaro â thancer olew ym Môr y Gogledd.

Mae un person dal ar goll ond mae'r gwaith o chwilio am y person hwnnw wedi dod i ben.

Dywedodd Ditectif Brif Uwcharolygydd Craig Nicholson o Heddlu Humberside eu bod nhw wedi cymryd rheolaeth dros yr ymchwiliad i asesu unrhyw droseddau ddigwyddodd yn sgil y digwyddiad.

"Mae gwaith manwl eisoes yn cael ei gynnal ac rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid i ddeall beth ddigwyddodd ac i ddarparu cefnogaeth i bawb sydd wedi cael eu heffeithio," meddai.

"Ar ôl ymholiadau rydym wedi arestio dyn 58 oed ar amheuaeth o ddynladdiad trwy esgeulustod dybryd mewn cysylltiad gyda'r digwyddiad."

Ychwanegodd y llu bod y dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.

Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol hefyd yn lansio ymchwiliad ar wahân i sefydlu achosion y ddamwain rhwng y llong Solong o Bortiwgal a thancer yr Unol Daleithiau Stena Immaculate ddydd Llun.

Brynhawn Mawrth, cyhoeddodd Gwylwyr y Glannau fod y Solong yn dal ar dân, a bod y tân ar y tancer olew yn llawer llai ffyrnig erbyn hyn.  

Llwyddodd 36 o bobl i ddod i’r lan ar ôl y gwrthdrawiad rhwng y ddau llong.

Cafodd pob un o’r 23 oedd ar fwrdd y tancer olew eu hachub – ond mae un o’r 14 aelod o griw'r llong gargo yn dal ar goll.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod wedi dod â'r gwaith chwilio i ben am 21.40 nos Lun, tra bod y ddwy long yn dal ar dân.

'Dim cemegion'

Yn ôl adroddiadau nos Lun, roedd y llong gargo yn cludo'r cemegyn sodiwm cyanid, ac fe arweiniodd hynny at bryderon amgylcheddol.

Ond mae perchnogion y llong bellach yn dweud bod y casgenni yn wag ar y pryd, ac nad oedd unrhyw gemegion ynddyn nhw.  

Roedd fideo yn dangos mwg du yn codi i’r awyr ar ôl y gwrthdrawiad oddi ar arfordir Dwyrain Sir Efrog fore dydd Llun.

Mae Downing Street wedi dweud bod achos y gwrthdrawiad yn “dal i ddod yn glir”.

Dywedodd Martyn Boyers, prif weithredwr Porthladd Dwyrain Grimsby, ei fod wedi cael gwybod bod “pêl danllyd enfawr” wedi codi o’r llongau.

“Mae’n rhy bell i ni weld - tua 10 milltir - ond rydyn ni wedi gweld y cychod yn dod â phobl i mewn,” meddai. 

“Yn ffodus roedd yna long yn trosglwyddo criw allan yna'n barod.

“Ers hynny mae llynges o ambiwlansys wedi dod i godi unrhyw un y maen nhw’n gallu dod o hyd iddo.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.