Cyngor yn gwario bron £170,000 wedi ffrae am safle tirlenwi
Fe wnaeth gwaith monitro gan Gyngor Sir Penfro ar safle tirlenwi dadleuol Withyhedge, a her gyfreithiol aflwyddiannus gostio bron i £170,000 i'r awdurdod, yn ôl yr hyn y mae cynghorwyr wedi cael gwybod.
Fis Hydref y llynedd, aeth Cyngor Sir Penfro i'r llys i geisio am waharddeb interim yn erbyn gweithredwyr y safel RML, ar ôl gofyn iddynt roi ymrwymiad cyfreithiol i atal arogl rhag ymledu o Safle Tirlenwi Withyhedge, ger Hwlffordd.
Daeth y camau cyfreithiol ar ôl i drigolion gwyno am fisoedd am arogleuon a nwyon a allai fod yn niweidiol yn dod o'r safle tirlenwi.
Dywedodd barnwr cylchdaith fod y domen yn achosi trafferth, ond roedd yn credu nad oedd y cyngor wedi gwneud cais yn y ffordd gywir, gan wrthod caniatáu gwaharddeb dros dro.
Roedd cwnsler cyfreithiol yr awdurdod wedi argymell y dylai’r cyngor apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw, ond oherwydd y costau cysylltiedig â’r ffaith bod y sefyllfa yn y domen wedi gwella, ni wnaed hynny.
Mewn adroddiad gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr, y Cynghorydd Rhys Sinnett yng nghyfarfod Cyngor Sir Penfro ar 6 Mawrth, dywedodd bod yr awdurdod mewn sefyllfa anodd wrth ystyried costau apelio a’r costau a wariwyd eisoes ar gyfer cymryd camau llys, yn ogystal â darparu monitro ansawdd aer annibynnol ac amser swyddogion i ddelio â’r mater hwn.
“Cafodd yr Awdurdod eu gorchymyn i dalu costau cyfreithiol o £169,110.87, er bod y swm gwirioneddol wedi’i leihau drwy gytundeb i £100,000,” meddai'r ddogfen.
Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar oblygiadau ariannol eraill i’r cyngor: “Costau ar gyfer monitro ansawdd aer, costau cyfreithiol ac ategol ar gyfer cyfieithu adroddiadau a rhai taliadau goramser staff yn gyfanswm o £166,544”.
Clywodd yr aelodau fod nifer y cwynion i Cyfoeth Naturiol Cymru a'r cyngor wedi bod yn isel ers dechrau mis Ionawr 2025 pan ddechreuodd y gwaith o ollwng gwastraff eto.
Mae cyllid gan Gyngor Sir Penfro a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi’i sicrhau i ganiatáu i’r gwaith o fonitro ansawdd aer drwy’r monitor statig yn Ysgol Spital barhau tan 31 Mawrth, ond byddai’n costio £57,215 am flwyddyn ychwanegol, clywodd yr aelodau.