Caryl Bryn: 'Cyffuriau colli pwysau wedi newid fy mywyd yn llwyr'
Caryl Bryn: 'Cyffuriau colli pwysau wedi newid fy mywyd yn llwyr'
Mae perthynas Caryl a'i phwysau wedi bod yn un gymhleth ers blynyddoedd.
"Dw i 'di bod yn hogan dros fy mhwysau erioed. Dw i ddim yn cofio peidio bod yn 'dew'.
"Ges i drafferth mawr wrth dyfu fyny yn dod i dderbyn fy hun. Fi oedd yr un dew yn yr ysgol bob tro."
Yn pwyso 28 ston ar un adeg cafodd Caryl ddiagnosis o orfwyta mewn pyliau neu binge eating yn ystod y pandemig.
"Yn y cyfnod tywyllaf, pan o'n i'n mynd drwy'r binge eating disorder mi fyddwn i'n cloi fy hun yn fy 'stafell ac yn bwyta gymaint drosodd a throsodd drwy'r dydd.
"Do'n i ddim yn sbio ar fy hun yn y drych. O'n i'n osgoi hynny'n llwyr.
"Ond ers dechrau gweithio fel gohebydd i Heno a Prynhawn Da mae'r gwaith yn fwy na be mae rhywun yn ei weld ar sgrin.
"Pan dw i'n ffilmio rhywbeth dw i'n gorfod sbio ar fy hun ar y sgrin er mwyn ei olygu fo.
“Ges i fy ngorfodi i sbio arnaf fi'n hun go iawn a sylweddoli bod rhaid i mi newid pethau."
Drwy gymorth y brechlyn Mounjaro a newid ei ffordd o fyw dros amser mae Caryl wedi llwyddo i golli pwysau.
"Wnes i wneud dipyn o waith ymchwil ynghylch weight loss jabs. Roedd 'na gymaint ynghylch nhw ar y we. Pethau brawychus a deud y gwir.
"Cymaint o sgil-effeithiau, marwolaethau hyd yn oed am bod rhywun heb wneud digon o waith ymchwil.
"Ond wnes i benderfynu mynd amdani ar ol gwneud ymchwil a phenderfynu mod i am fwyta'n Gallach, gwneud ymarfer corff oedd yn siwtio fy nghorff i.
"Mae o 'di newid fy mywyd yn llwyr."
Mae brechlynnau colli pwysau yn aml yn y penawdau gyda nifer o arbenigwyr yn cwestiynu a yw'n rhy hawdd i gael gafael ar feddyginiaethau fel hyn?
"Ella bod ambell un yn meddwl bod hi'n rhy hawdd i gael meddyginiaethau colli pwysau fel Mounjaro.
"Y peth ydy, os ydych chi wedi cyrraedd y pen, fel wnes i a doedd gen i nunlle arall i droi, os ydych chi yn gwneud y gwaith ymchwil a siarad efo doctor a bod gennych chi gefnogaeth, mae'n werth wirioneddol ystyried."
Er bod Caryl wedi elwa o'r brechlyn, mae arbenigwyr yn rhybuddio nad ydy'r brechlynnau i bawb a bod sgil-effeithiau yn bodoli.
"Mae bobl yn gallu teimlo'n reit sal, bloating a mwy o nwy. Gall rhywun ymdopi a nhw ond dydyn nhw ddim yn bleserus.
"Ond mae gennych chi sgil-effaith gyda chynnydd mewn pancreatitis sy'n gallu bod yn ddifrifol.
"Mae pobl yn gorfod mynd i'r ysbyty."
A'r hyfforddwr personol yma'n pwysleisio pwysigrwydd addysgu am wahanol dechnegau colli pwysau er mwyn gwneud y dewis addas i'r unigolyn.
"Mae'n bwysig bod chi'n deal o le mae angen yr help ar bobl."
Ydy o'n poeni ti bod mwy yn troi at ddulliau a thechnegau gwahanol fel pigiadau ac yn y blaen?
"Beth sy'n fy mhoeni i yw'r elfen hynny. Mae angen i bobl wneud yn siwr bod nhw'n mynd at y bobl proffesiynol mynd at y doctoriaid a gwneud yn siwr ai dyma'r unig drywydd allen nhw ddilyn.
"Mae 'na ffyrdd mwy naturiol ar gael."
Mae cyfrol newydd Fel yr Wyt yn son am brofiadau merched o fyw mewn corff mwy a Caryl yn un sydd wedi cyfrannu.
"Dw i erioed 'di siarad mor agored a hyn am fy mhwysau am ei fod wedi dod ag embaras mawr i mi erioed.
"O'n i mor ddiolchgar am y cyfle a'r cyfle i ddarllen gwaith pawb arall.
"Rhwng y ddau glawr, mae'r 20 o ferched yna. 'Dan ni efo'n gilydd, yn rhwyfo'n erbyn yr un llif.
"Mae'n gyfrol hynod o bwerus."
Mae wedi bod yn siwrne hir i Caryl ond drwy siarad yn agored mae'n gobeithio bydd rhannu ei phrofiad yn gysur i eraill.