Newyddion S4C

Rygbi: 'Hyder' yn dychwelyd i Gymru, medd Jac Morgan

10/03/2025

Rygbi: 'Hyder' yn dychwelyd i Gymru, medd Jac Morgan

Mae’r hyder yn dychwelyd i dîm rygbi Cymru, yn ôl y capten Jac Morgan, wrth iddyn nhw baratoi i herio Lloegr yng ngêm olaf y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth y cochion golli eu 16eg gêm yn olynol dros y penwythnos wrth gwympo 35-29 yn erbyn yr Alban yn Murrayfield.

Ar ôl ildio pedwar cais yn yr hanner cyntaf, daeth y Cymry yn ôl i hawlio dau bwynt bonws ar ddiwedd y gêm, am sgorio pedwar cais a gorffen o fewn saith pwynt o’u gwrthwynebwyr.

Yng ngêm olaf Matt Sherratt fel prif hyfforddwr dros dro, fe fydd Cymru yn croesawu Lloegr i Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

“Mae’r hyder yn dod nôl,” dywedodd Jac Morgan.

“Be sy’n bleser i weld yw ein bod ni wedi bod yn ymosod lot mwy yn y ddwy gêm ddiwethaf a ni di bod yn newydd i’r strwythur. 

“Ni just gorfod cario ymlaen i ddysgu'r wythnos hyn nawr a mynd amdani wythnos nesaf.

“Ond mae’r hyder yn dod a ni’n gallu cymryd lot o hyder o’r 20 munud diwethaf o’r gêm.

Bydd Lloegr yn cyrraedd y brifddinas dal gyda gobaith o ennill y Chwe Gwlad.

Byddai buddugoliaeth swmpus dros Gymru yn rhoi’r Saeson ar frig y tabl cyn gêm olaf y bencampwriaeth nos Sadwrn, rhwng y tîm sydd yn arwain ar hyn o bryd, Ffrainc, a’r Alban.

Bydd Cymru v Lloegr yn cael ei ddangos am 16.45 ddydd Sadwrn ar S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.