Newyddion S4C

Gwahardd asgellwr Cymru Rabbi Matondo rhag gyrru am flwyddyn

Rabbi Matondo

Mae chwaraewr pêl-droed Cymru Rabbi Matondo wedi ei wahardd rhag gyrru am flwyddyn.

Cafodd Matondo, 24 oed, ei ddal yn gyrru ar gyflymder o 100mya tra'n teithio i stadiwm Ibrox lle'r oedd yn chwarae i Rangers.

Mae Matondo ar fenthyg i glwb Hannover 96 yn yr Almaen ar hyn o bryd.

Roedd yn gyrru ar yr M8 ac ar ei ffordd i sesiwn ymarfer ar 1 Awst 2023, yn ôl The Sun.

Fe roddodd yr heddlu'r gorau i'w ddilyn gan eu bod yn ofni y byddai'n achosi damwain.

Fe'i cafwyd yn euog o yrru'n beryglus ac fe dderbyniodd waharddiad o flwyddyn a dirwy o £420.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.