'Dim bwriad' i gyflwyno consgripsiwn ym Mhrydain medd gweinidog
Nid yw Llywodraeth Prydain yn ystyried gorfodaeth milwrol, neu gonsgripsiwn, o ganlyniad i densiynau rhyngwladol yn ôl un gweinidog.
Dywedodd gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Pat McFadden, wrth Sky News ddydd Sul fod “yn rhaid i Ewrop gamu i’r adwy o ran amddiffyn ei hun”.
Roedd yn ymateb i sylwadau arlywydd Latfia, Edgars Rinkevics, sydd wedi dweud y dylai gwleydd Ewrop gyflwyno consgripsiwn i amddiffyn y cyfandir.
Pan ofynnwyd iddo a yw consgripsiwn yn rhywbeth sydd yn cael ei ystyried, dywedodd Mr McFadden: “Nid ydym yn ystyried consgripsiwn, ond, wrth gwrs, rydym wedi cyhoeddi cynnydd mawr mewn gwariant amddiffyn ychydig wythnosau yn ôl, ac mae’n rhaid i ni gydnabod bod y byd wedi newid.
“Mae’r ymadrodd ‘camu i fyny’ wedi cael ei ddefnyddio llawer yn ystod yr wythnosau diwethaf ac mae’n rhaid i Ewrop gamu i fyny o ran ei hamddiffyniad ei hun.
“Nid yr Arlywydd Trump yw’r arlywydd cyntaf i ddweud hynny mewn gwirionedd, ond fe’i dywedodd yn uwch a chyda mwy o rym na’i ragflaenwyr. Felly, rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni gydnabod y foment honno.”
Ni ddywedodd os oedd yn beth anghywir i’r Unol Daleithiau fod wedi rhoi stop ar rannu cudd-wybodaeth gyda Wcráin.
Pan ofynnwyd iddo a oedd yn gam “anghywir”, dywedodd Mr McFadden: “Wel, eu penderfyniad nhw ydy o. Nid yw’n rhywbeth yr ydym wedi’i wneud.
“Rydyn ni’n cefnogi Wcráin, rydyn ni’n parhau i gyflenwi arfau i Wcráin, gyda chymorth cudd-wybodaeth, gyda chymorth technoleg seiber, oherwydd rydyn ni’n credu eu bod nhw’n cymryd rhan mewn brwydr bwysig iawn dros ryddid eu gwlad a’r gallu i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain.”
Wrth ymateb i'r cwestiwn os oedd y Tŷ Gwyn yn gyfrifol o ganlyniad am farwolaethau yn Wcráin, dywedodd Mr McFadden: “O ran yr Unol Daleithiau, yr hyn maen nhw’n ceisio ei wneud yw dod â’r rhyfel i ben.
"Rwy’n meddwl bod pawb yn rhannu’r nod hwnnw.
“Nid diwedd ar yr ymladd yn unig yw’r hyn yr ydym am ei sicrhau, ond heddwch sy’n para, ac sydd wedi tanlinellu pob cam y mae’r Prif Weinidog wedi’i gymryd yn ystod yr wythnosau diwethaf, oherwydd ni fydd yn gwneud dim i sicrhau dyfodol Wcráin os bydd gennym gadoediad dros dro, a fydd yn para dim ond cyhyd ag y mae’r arlywydd Putin am iddo wneud.”
Llun: Y Weinyddiaeth Amddiffyn