Newyddion S4C

Unigrwydd a phroblemau iechyd yn parhau ers pandemig Covid-19

Covid-19
NS4C

Bum mlynedd ers i’r cyfnod clo cyntaf cychwyn yn y Deyrnas Unedig, mae rhai elusennau wedi rhybuddio bod pobl yn parhau i deimlo’r effeithiau hirdymor ar eu hiechyd a lles. 

Mae ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod nifer y bobl sy’n dweud eu bod gyda safon iechyd ‘da’ neu ‘da iawn’ wedi gostwng yn raddol ers mis Mawrth 2020. 

Ac mae canran y bobl sy’n dweud eu bod yn teimlo’n unig yn ‘aml’ neu ‘ar adegau’ wedi parhau ar gyfradd debyg i gyfnod y pandemig hefyd. 

Fe ddaw’r ffigyrau wrth i’r DU gynnal Diwrnod o Fyfyrdod Covid-19 ddydd Sul. 

Fe gafodd y cyfnod clo cyntaf ei gynnal ar hyd a lled y DU ar 23 Mawrth 2020 er mwyn mynd i’r afael â nifer cynyddol yr achosion o bobl oedd wedi eu heintio gyda coronafeirws. 

Roedd hyn yn golygu bod cyfyngiadau llym mewn grym o ran teithio a chymdeithasu. 

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi bod yn cynnal arolwg yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn rheolaidd dros y pum mlynedd diwethaf er mwyn mesur iechyd a lles pobl.

'Anfodlon'

Ar ddechrau’r cyfnod clo cyntaf, roedd mwy na thri chwarter (77%) o bobl yn dweud bod ganddyn nhw iechyd ‘da’ neu ‘da iawn.’

Fe gwympodd y ganran yma i 70% erbyn tymor y gwanwyn 2021, gan aros o dan 70% ers dechrau 2023. 

Dywedodd 65% o bobl bod iechyd ‘da’ neu ‘da iawn’ ganddyn nhw ar ddechrau’r flwyddyn eleni. 

Dywedodd 23% o bobl eu bod yn teimlo’n unig ‘yn aml’ ar ddechrau’r cyfnod clo. 

Mae’r ganran yma wedi parhau ar lefel tebyg dros y blynyddoedd diwethaf gyda 25% yn dweud eu bod yn teimlo yr un fath eleni. 

Mae canran y bobl sy’n dweud eu bod yn teimlo’n anfodlon gyda’u bywydau hefyd yn debyg i ddechrau’r cyfnod clo, gyda 9% yn anfodlon eleni o gymharu â 8% bryd hynny. 

Roedd hanner y bobl a gafodd eu holi ar ddechrau’r pandemig wedi dweud eu bod yn dioddef lefelau uchel o orbryder. Mae tua 30% yn dweud bod ganddyn nhw orbryder difrifol erbyn hyn.  

'Peri pryder'

Wrth ymateb i’r ffigyrau, dywedodd prif weithredwr elusen y Gymdeithas Frenhinol dros Iechyd Cyhoeddus bod y pandemig wedi cael effaith “hir dymor, gan olygu bod nifer o bobl yn ynysig.” 

Dywedodd eu llefarydd Williams Roberts bod rhaid meddwl am ein hiechyd ym mhob rhan o gymdeithas er mwyn gwella, yn hytrach na cheisio trin iechyd gwael yn unig.

“Mae iechyd gwael parhaus yn dangos ein bod ni wedi methu â dysgu o bandemig Covid-19,” meddai. 

Dywedodd Jacob Lant, prif weithredwr National Voices – sef grŵp sy’n cynrychioli elusennau iechyd a gofal cymdeithasol – fod y ffigyrau yn “peri pryder”.

“Mae’r anghydraddoldebau iechyd a ddaeth i’r amlwg yn ystod y pandemig yn dal i fod yn bresennol, ac yn dal yn amlwg iawn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.