Newyddion S4C

Beiciwr modur yn dioddef anafiadau difrifol mewn damwain ger yr Wyddgrug

08/03/2025
S4C

Mae beiciwr modur wedi dioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ger yr Wyddgrug fore dydd Gwener.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A541 yn Llong ychydig wedi 06:30 rhwng beic modur Honda a Ford Transit Connect.

Mae'r heddlu'n dweud y gallai anafiadau'r beiciwr modur newid ei fywyd.

Cafodd y beiciwr modur ei gludo i Ysbyty Maelor yn Wrecsam mewn ambiwlans i ddechrau, ond ers hynny mae wedi cael ei drosglwyddo i ysbyty yn Stoke.

Dywedodd y Sarjant Emma Birrell: “Rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd yr A541 ar adeg y gwrthdrawiad, ac a allai fod â lluniau camera cerbyd a allai fod o gymorth gyda’n hymchwiliad, i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.”

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â swyddogion drwy wefan Heddlu'r Gogledd neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 25000192493.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.