
Yn ôl i'r Barri i seren Gavin & Stacey i roi sylw i wastraff bwyd
Yn ôl i'r Barri i seren Gavin & Stacey i roi sylw i wastraff bwyd
Mae seren Gavin & Stacey, Joanna Page, wedi dychwelyd i’r Barri er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ailgylchu – a hynny drwy ddefnyddio rysáit eiconig o’r gyfres.
Mae’r actores wedi ymuno â’r cogydd Chris ‘Flamebaster’ Roberts fel rhan o ymgyrch i helpu teuluoedd i osgoi gwastraffu bwyd, gan obeithio arbed arian yn y broses.
Mae'n rhan o ymgyrch gan Gymru yn Ailgylchu sydd yn dweud bod 82% o deuluoedd Cymru yn pryderu am gost bwydydd – er eu bod ar gyfartaledd yn gwastraffu gwerth £84 o fwyd bob mis.
Prinder amser i baratoi prydau bwyd iachus sydd ymhlith y brif heriau y mae pobl yn eu hwynebu, medd yr ymgyrch.
Fel rhieni i bedwar o blant yr un, mae Joanna Page a Chris Roberts bellach wedi dod at ei gilydd i greu ryseitiau syml all fod o gymorth i deuluoedd sydd dan bwysau amser ac yn ariannol.
O gyri cyw iâr i bwdin iogyrt, mae eu bwydlen hefyd yn cyfeirio at rôl adnabyddus Joanna yn Gavin & Stacey – gan gynnwys omled arbennig ei mam yn y gyfres.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Joanna Page: “Mae ‘na gysylltiad mor gryf rhwng Gavin & Stacey ac omledau; omled Gwen.
“Ond wnes i erioed feddwl y byddai’r omled yn gallu codi ymwybyddiaeth!”

'Jyst agor y frij'
Yn ôl gwaith ymchwil yr elusen, mae bron i chwarter o bobl Cymru (24%) a bron i draean (31%) o deuluoedd sydd â phlant yn gwastraffu cyfran sylweddol o'u bwyd.
“Ar ddiwedd yr wythnos a diwedd y mis, mae ‘na wastad fwyd sy’n cael ei daflu yn y bin a ‘da ni jyst eisiau annog pobl a theuluoedd i beidio â rhoi bwyd yn y bin," meddai Joanna.
“Defnyddia’r holl weddillion sydd ‘da ti a rhowch e mewn i rywbeth i fwyta."
Mae’r cogydd Chris Roberts yn gobeithio y bydd pobl yn gallu uniaethu gyda sefyllfa y ddau fel rhieni prysur gan eu hysbrydoli i feddwl yn greadigol pan yn coginio.
“Mae gen i bedwar plentyn: pump, tri, dau a pum mis oed adra. Weithiau ar ôl diwrnod hir o gwaith mae mor hawdd jyst mynd i’r freezer, nôl waffles a fish fingers," meddai’r Flamebaster.
“Ond jyst agor y frij a defnyddio be’ bynnag sydd angen cael ei iwsio fyny."

'Gwarthus'
Mae Gwyneth a Gwynfor Davies yn ŵr a gwraig o Faesycwmer yng Nghwm Rhymni yn cefnogi'r ymgyrch ac yn dweud eu bod nhw wedi bod yn ailgylchu ers degawdau bellach.
Maen nhw’n dweud eu bod yn ymdrechu i ailgylchu “popeth” yn eu cartref, gan gynnwys gwastraff bwyd.

“Ni’n trïo defnyddio popeth sydd gyda ni,” medd Gwynfor Davies. “Mewn byd ble mae rhai pobl ddim gyda dim bwyd o gwbl, mae’n warthus i fi i taflu bwyd da i ffwrdd.”
“Ma’ rhaid i ni ‘neud y mwyaf o y deunyddiau a’r bwydydd sydd gyda ni,” ychwanegodd ei wraig Gwyneth Davies.

Nod ymgyrch Bydd Wych, Ailgylcha yw annog pobl nid yn unig i fwyta’r hyn sydd yn eu hoergell, ond i wneud yn siŵr eu bod yn ailgylchu unrhyw weddillion nad oes modd eu bwyta.
Dywedodd Angela Spiteri, uwch reolwr yr ymgyrch sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru: "Mae chwarter y bin sbwriel cyffredin yn cynnwys gwastraff bwyd, a gellid bod wedi bwyta’r rhan fwyaf ohono – felly ein ffocws yw manteisio i’r eithaf ar ein bwyd ac ailgylchu'r hyn na ellir ei fwyta i helpu creu ynni adnewyddadwy."