Newyddion S4C

Bangor: Carchar i ddynion fu’n smalio bod yn drydanwyr er mwyn tyfu canabis

07/03/2025

Bangor: Carchar i ddynion fu’n smalio bod yn drydanwyr er mwyn tyfu canabis

Mae wyth o ddynion oedd wedi smalio bod yn drydanwyr er mwyn tyllu ceblau i bweru ffermydd canabis wedi cael eu dedfrydu i garchar ddydd Gwener.

Daeth gweithredoedd y grŵp i’r amlwg pan wnaeth Heddlu Gogledd Cymru ddarganfod fferm ganabis £1.2m ar stryd fawr dinas Bangor. 

Yr adeiladau ar Stryd Fawr Bangor oedd darganfyddiad cyntaf yr heddlu o rwydwaith o dros gant o ffermydd canabis trwy Brydain - yn cynnwys Llanelli ac Abertawe.

Roedd y delweddau cylch cyfyng yn dangos pum dyn a gyrhaeddodd mewn fan gyda’r enw Elev8 arno a oedd yn ymddangos fel pe baen nhw’n cynnal gwaith cynnal a chadw.

Roedd y dynion o’r cwmnïoedd Elev8 Civils a Utilities Limited yn gyrru faniau i leoliadau ar draws y DU cyn palu palmentydd er mwyn darparu cysylltiad trydanol uniongyrchol ar gyfer ffermydd canabis.

Ddydd Gwener cafodd wyth o ddynion eu carcharu am eu rhan wrth sefydlu ffermydd mewn 32 ardal heddlu gwahanol rhwng Tachwedd 2020 a Chwefror 2024.

Dywedodd ymchwilwyr o Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol y Gogledd Orllewin (NWROCU) fod y grŵp wedi cynnig eu gwasanaethau i grwpiau troseddol Albanaidd.

Wrth eu dedfrydu yn Llys y Goron Lerpwl, dywedodd y Barnwr David Potter fod yr holl ddiffynyddion “wedi’u gyrru ymlaen gan drachwant”.

Roedd eu gwaith yn “ganolog” wrth sefydlu ffermydd canabis a ddarganfuwyd mewn adeiladau gan gynnwys cyn westy, siopau, clwb nos, a thafarn, meddai.

Ychwanegodd: “Fe wnaethon nhw hyn yng ngolau dydd ac o dan drwynau pobl.

“Fe ddefnyddion nhw gerbydau, arwyddion, rhwystrau a dillad gwelededd uchel i ymddangos fel pe baent yn gwneud gwaith stryd cyfreithlon.”

Dywedodd wrth y llys: “Mae faint o drydan a gafodd ei dynnu’n anghyfreithlon wedi costio miliynau.”

Image
Yn dynion ar stryd fawr Bangor
Yn dynion ar stryd fawr Bangor

Carchar

Roedden nhw dan arweiniad y cyfarwyddwyr cwmni Ross McGinn, 33, o Huyton, Glannau Mersi, ac Andrew Roberts, 42, o Wigan, Manceinion.

Plediodd y ddau ddyn yn euog i annog a chynorthwyo trosedd, cynllwynio i dynnu trydan, a chynllwynio i ddwyn.

Sychodd Ross McGinn, ar gyswllt fideo o'r carchar, ddagrau o’i lygaid wrth iddo gael ei garcharu am bum mlynedd a phedwar mis.

Cafodd Andrew Roberts ei ddedfrydu i chwe blynedd.

Cafodd Graham Roberts, 47, o Wigan, a blediodd yn euog i annog a chynorthwyo trosedd a chynllwynio i dynnu trydan, ei garcharu am bum mlynedd a thri mis am ei rôl wrth hollti a chysylltu ceblau byw.

Plediodd y gweithwyr tir Greg Black, 29, o Huyton; Lewin Charles, 22, o Roby, Glannau Mersi; Aiden Doran, 28, o Wigan; a Jack Sherry, 20, o Wigan, i gyd yn euog i annog a chynorthwyo trosedd a chynllwyn i ddwyn trydan.

Carcharwyd Greg Black am dair blynedd a naw mis, Lewin Charles am ddwy flynedd ac wyth mis a dedfrydwyd Aiden Doran i dair blynedd.

Cafodd Jack Sherry ddedfryd o 22 mis, wedi'i gohirio am 18 mis, ac fe gafodd orchymyn i wneud 100 awr o waith di-dâl.

Fe ddefnyddion nhw offer arbenigol gafodd ei ddwyn i archeb gan Colin White, 62, o Lerpwl, oedd yn gweithio i gwmni Scottish Power ar y pryd.

Cafodd Colin White ei garcharu am ddwy flynedd a hanner ar ôl pledio’n euog i gynllwynio i ddwyn ac annog neu gynorthwyo tynnu trydan.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.