Newyddion S4C

S4C i ddarlledu holl gemau rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA 2026 yn fyw

07/03/2025
Chwaraewyr Cymru yn dathlu wedi iddynt sgorio yn erbyn Latfia

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd holl gemau tîm dynion Cymru yn ystod gemau Rhagbrofol Ewrop Cwpan y Byd FIFA 2026 yn cael eu darlledu’n fyw ar lwyfannau'r darlledwr.

Daw’r cadarnhad yn sgil cytundeb hawliau newydd rhwng UEFA a’r BBC fydd yn sicrhau y bydd y gemau yn parhau gyda sylwebaeth Gymraeg ar S4C. 

Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C eu bod nhw’n “falch iawn” o fedru parhau i ddangos y gemau yma’n fyw “gan adeiladu ar flynyddoedd o ddarlledu pêl-droed rhyngwladol o’r safon uchaf ar S4C”.

“Mae S4C yn gartref i bêl-droed Cymru o lawr gwlad i’r brig, ac rydym yn falch o’r berthynas arbennig sydd gennym gyda chefnogwyr Y Wal Goch a Chymdeithas Bêl-droed Cymru,” meddai.

“Gyda chyffro’r ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2026 ar fin dechrau, mae’n wych i gadarnhau y bydd cefnogwyr  yn medru parhau i fwynhau angerdd ein sylwebwyr Cymraeg yn fyw ar draws platfformau S4C.”

Bydd tîm Sgorio Rhyngwladol yn darlledu’r gemau gan ddechrau gyda’r gêm gyntaf yn erbyn Kazakstan o Stadiwm Dinas Caerdydd, ddydd Sadwrn 22 Mawrth.

Fe fyddan nhw’n dilyn y daith i Ogledd Macedonia dridiau yn ddiweddarach.

‘Balch’

Daw cyhoeddiad S4C wedi i’r BBC ddweud y bydd y gemau yn cael eu darlledu yn Saesneg ar BBC One a BBC Three.

Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “Rwy’ wrth fy modd ein bod wedi arwyddo cytundeb i ddod â gemau Cymru i’r sgrin ar y BBC."

Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Wrth i ni agosáu at ymgyrch gyffrous i gyrraedd Cwpan y Byd, gyda Craig Bellamy wrth y llyw, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda BBC Cymru Wales, with iddynt ddarlledu gemau tîm Cenedlaethol Dynion Cymru.

“Mae’n wych bod pob cefnogwr tîm Cymru yn mynd i allu gwylio ein gemau am ddim trwy ddarllediadau gwych y BBC.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.