Newyddion S4C

‘Teimlad o falchder’: Annog mwy o fenywod i roi wyau yn sgil prinder

08/03/2025

‘Teimlad o falchder’: Annog mwy o fenywod i roi wyau yn sgil prinder

Mae dynes o Wynedd sydd wedi rhoi wyau yn annog menywod eraill i ystyried gwneud yr un peth yn sgil prinder rhoddwyr yn y DU.

Yn ei thridegau, fe wnaeth Carwen Cory-Griffith o Fryncir roi wyau i ddau gwpl oedd methu cael plant er mwyn iddyn nhw gael triniaeth IVF.

Roedd y driniaeth yn llwyddiannus i un o’r cyplau, gan roi gefeilliaid iddyn nhw.

Dywedodd Ms Cory-Griffith ei fod yn “deimlad neis i feddwl bod gen i ddwy ferch yn rhywle a bod rheini’n bodoli oherwydd fi”.

Yn ôl meddyg o Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru, mae ‘na brinder rhoddwyr wyau yn y DU.

‘Tosturi’

Penderfynodd Ms Cory-Griffith roi wyau ar ôl cael trafferth cael plant ei hun.

“Roedd colli saith plentyn wedi bod yn rhan o’r penderfyniad,” meddai wrth Newyddion S4C.

“Roedd gyna fi syniad o sut oedd o’n teimlo bo’ fi ddim yn mynd i fod yn fam.

“Dw i’n cofio’r teimlad gwag ofnadwy na – rhywbeth oedd yn fod i ddigwydd yn naturiol i ferched, ac yna meddwl bod o ddim yn mynd i ddigwydd i fi. 

“Ges i’r plant wedyn ac o’n i’n isde yna’n meddwl, mae gyna fi ŵy yn mynd i wast bob mis, dw i ddim yn mynd i gael mwy o blant rŵan.

“Roeddwn i jyst yn teimlo tosturi dros bobl oedd methu gwneud hynny’n naturiol.”

Nid yw menywod yn cael eu talu am roi wyau yn y DU, ond maen nhw'n cael iawndal o hyd at £985.

Image
Carwen Cory-Griffith a'i phlentyn
Dywedodd Ms Cory-Griffith ei bod yn teimlo dros fenywod oedd methu cael plant

Bron i dri degawd yn ddiweddarach, mae Ms Cory-Griffith yn falch o’i phenderfyniad.

“Dw i’n prowd o fy hun bo’ fi wedi neud o a meddwl bod ‘na ddwy hogan allan yna’n rhywle sydd yma achos bo’ fi wedi helpu rhieni nhw,” meddai.

“Mae hynna’n rhoi teimlad o falchder i mi, mae’n rhaid i mi ddweud.”

Gall pobl a gafodd eu beichiogi gydag wy rhoddwr yn y DU gysylltu gyda’u rhoddwyr os gafodd yr wy ei roi ar ôl 1 Ebrill 2005. 

Unwaith maen nhw’n 18 oed, maen nhw’n gallu gwneud cais am enw’r rhoddwr, dyddiad geni a’u cyfeiriad diweddaraf.

Ond y person a gafodd eu beichiogi gan roddwr sy’n penderfynu os ydyn nhw’n mynd i gysylltu gyda’r rhoddwr ai peidio.

Image
Plant Carwen Cory-Griffith
Ar ôl cael dau o blant, fe benderfynodd Ms Cory-Griffith i roi wyau i helpu eraill

Nid yw Ms Cory-Griffith yn gwybod os yw’r efeilliaid yn ymwybodol ohoni.

“Dw i’m yn gwbo os ddaru eu rhieni nhw byth ddweud wrthyn nhw sut gafo nhw eu cenhedlu,” meddai.

“Ond dw i'n gobeithio bo’ nhw wedi, ac wedi esbonio’r broses iddyn nhw.”

Ychwanegodd: “Mi fysai’n ffantastig cael cwrdd ‘da nhw i weld os ydyn nhw’n debyg i fi, achos mae ‘na deimlad bo’ nhw’n perthyn i fi mewn ffordd.

“Dim bo’ fi’n mynd i chwilio amdanyn nhw a claimio nhw fel plant fy hun, ond jyst i gael rhyw fath o gau ar y broses.”

Mae hi bellach yn annog menywod eraill i ystyried rhoi wyau yn sgil prinder rhoddwyr yn y DU.

Yn ôl data gan yr Awdurdod Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol, roedd 'na 680 o roddwyr wyau newydd yng Nghymru yn y degawd rhwng 2012 a 2022.

Ond roedd nifer y rhoddwyr newydd wedi gostwng 25% yn 2022 o'i gymharu â 2012.

Camwybodaeth

Mae Dr Christina Tzouma yn gweithio fel Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Atgenhedlol yn Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru.

Mae hi'n dweud bod camwybodaeth yn rhwystro nifer o fenywod rhag rhoi wyau, gan eu bod yn meddwl bod triniaeth IVF - sy'n cynnwys y broses o gasglu rhai o’r wyau o’r ofarïau - yn cael gwared o'r wyau sydd ganddyn nhw ar ôl.

“Mae menywod sy’n dod i fy ngweld i bob tro’n gofyn i mi os ydi IVF am ddisbyddu eu cyflenwad wyau, ond yr ateb ydi na,” meddai.

“Yr unig beth mae IVF yn ei wneud ydi arbed y wyau sydd eisoes wedi cael eu creu, oherwydd ar ôl i’r ŵy gael ei ryddhau o’r ofari bydd yn cael ei ddinistrio.”

Ychwanegodd Dr Tzouma nad rhoi wyau yw'r unig ffordd o helpu menywod i gael plant.

Mae hi hefyd yn dweud bod modd i fenywod sydd wedi gorffen triniaeth IVF roi’r embryos nad ydyn nhw am eu defnyddio.

Gallen nhw eu rhoi i fenywod eraill sy'n ceisio cael plant, ymchwil neu hyfforddiant, meddai.

Image
Dr Christina Tzouma
Yn ôl Dr Christina Tzouma, mae camwybodaeth yn rhwystro menywod rhag rhoi wyau

Yn ôl Dr Tzouma, mae'r galw am roddwyr wyau yn cynyddu gan fod nifer o fenywod yn oedi cael plant “tan ei bod yn rhy hwyr”.

“Mi nes i ganolbwyntio ar fy ngyrfa’n gyntaf a hynny dros fy ffrwythlondeb,” meddai.

“Felly alla i ddim beio menywod am wneud hynny, achos mi nes i’r union yr un peth – ond pan maen nhw’n penderfynu dechrau teulu, mae hi’n rhy hwyr.”

Mae Dr Tzouma, a gafodd ei phlant drwy driniaeth IVF, yn galw ar fenywod i feddwl yn ofalus am eu ffrwythlondeb.

“O’r diwrnod ‘da ni’n cael ein geni, mae nifer yr wyau sydd ganddo ni’n lleihau ac yn lleihau, felly mae angen i ni fod yn ofalus iawn,” meddai.

“Weithiau, ‘da ni ddim yn meddwl yn ddoeth oherwydd dyma’r ffordd fodern o fyw.

“Felly, os oes ydych chi mewn perthynas sefydlog, peidiwch ag oedi eich ffrwythlondeb.

“Peidiwch ag aros am y foment iawn, ni ddaw’r foment iawn byth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.