Newyddion S4C

Ffoi o Wcráin i Ynys Môn: Bywyd yn 'llawn ansicrwydd'

Newyddion S4C

Ffoi o Wcráin i Ynys Môn: Bywyd yn 'llawn ansicrwydd'

Mae athrawes wnaeth ffoi o Wcráin gan ymgartrefu ar Ynys Môn wedi dweud ei bod yn “llawn ansicrwydd ac yn paratoi at y gwaethaf” wrth i drafodaethau barhau i gyrraedd cytundeb heddwch yn Wcráin.

Bellach yn 29 oed, fe wnaeth Oleksandra Poliakova adael ei chartref dair blynedd yn ôl yn ardal Zaporhizia wrth i’r rhyfel ddechrau gan deithio am bedwar diwrnod i Gymru er mwyn cael lloches gydag aelodau o'i theulu.

Yn byw ger Benllech fe wnaeth Gwenda a John Thomspon gynnig cartref a lloches iddi ac maen nhw'n parhau i fod yn rhan ganolog o’i bywyd.

Ond yn dilyn dadlau chwyrn rhwng yr Arlywydd Trump a Volodymyr Zelensky mae Oleksandra Poliakova yn dweud bod Wcrainiaid sy’n alltud yn “styc mewn limbo".

Mae Oleksandra Poliakova bellach yn gweithio mewn tafarn ym Mhentraeth a hefyd yn cynorthwyo plant o Wcráin mewn ysgol leol.

Ond wrth i densiynau barhau i gorddi rhwng yr Unol Daleithiau, Ewrop ac Wcráin yn dilyn penderfyniad yr Arlywydd Trump i roi stop ar gyflenwi cymorth milwrol a rhannu cudd-wybodaeth, mae Wcrainiaid sy’n gwylio o bell yn dweud bod hi’n gyfnod ansicr.

“’Da ni ddim yn gwybod be sydd i ddod a da ni’n styc mewn limbo”, meddai Oleksandra.

“Rŵan mae pethau hyd yn oed yn llai sicr ac mae'n anodd iawn dychmygu be ddaw nesa a ‘da ni’n paratoi at y gwaethaf."

'Cwffio dros ddemocratiaeth'

Dydy Oleksandra heb allu dychwelyd i’w chartref yn Wcráin ers dechrau’r rhyfel ond mae hi'n gobeithio dychwelyd rhyw ddydd.

Wrth symud i Gymru bedair blynedd yn ôl, cafodd loches gan Gwenda a John Thompson.

Mae mab y ddau wedi priodi aelod o deulu Oleksandra ac er yn deulu pell maen nhw wedi dod yn deulu agos wrth i Oleksandra ymgartrefu yng Nghymru.

“Mae’r bobl yn gyfeillgar ac yn ddewr," meddai Gwenda Thompson.

“Dwi’n meddwl bod hyn rŵan wedi dod ag Ewrop at ei gilydd ac mae hynny yn beth da a dwi’n gobeithio wneith Ewrop edrych ar ôl Canada hefyd rŵan."

Mae'r teulu o Fôn yn disgrifio’r broses o helpu fel “braint”.

Ond dweud mae Oleksandra Poliakova bod y trafodaethau rhyngwladol yn peri pryder a’r newid agwedd gan yr Unol Daleithiau tuag at Wcráin yn boen meddwl.

“Da ni’n cwffio dros ddemocratiaeth a rhyddid," meddai.

“Mae gyno ni egwyddorion ac maen nhw yn rhan mor annatod ohonom, da ni wedi talu pris enfawr i gadw nhw ac mae Ewrop yn teimlo fel yr unig obaith olaf o sicrhau rhyddid."

Mae disgwyl i drafodaethau heddwch gael eu cynnal yn Saudi Arabia ddydd Llun.

Yn y cyfamser, dair blynedd ers dechrau’r rhyfel dweud mae Oleksandra bod Cymru bellach yn gartref iddi.

“Mae 'na gynnydd enfawr wedi bod gen i o deimlo ar goll yn llwyr, i rŵan dwi’n teimlo elfen o normalrwydd a dwi wedi cael fy amgylchynu gan bobl sy’n gofalu amdani," meddai.

Yn ôl Gwenda Thompson mae hi bellach yn rhan ganolog o’r teulu.

“Fel rhywun gath ddau fab a dim merch, dwi’n gweld hi fel merch i ni," meddai.

“Heb anghofio bod ganddi fam sy’n yw yn yr Almaen bellach... ond dwi’n gweld o fel privilege mawr i gael hi yn ein bywyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.