Undeb Rygbi Cymru yn trafod gwerthu Caerdydd i berchnogion y Gweilch

Caerdydd a'r Gweilch

Fe fydd Undeb Rygbi Cymru yn cynnal trafodaethau â pherchnogion y Gweilch i brynu rhanbarth Rygbi Caerdydd, yn ôl adroddiadau.

Fe gymerodd yr URC reolaeth o ranbarth y brifddinas y llynedd ar ôl i’r clwb gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Fe wnaeth bwrdd yr URC gynnal cyfarfod ddydd Llun, gan ddod i’r casgliad mai perchnogion y Gweilch, Y11, oedd eu dewis ar gyfer perchnogi Caerdydd yn hytrach na chonsortiwm oedd yn cynnwys cyn-gyfarwyddwr Caerdydd, Martyn Ryan.

Mae’r undeb wedi dweud mai eu bwriad yw cwtogi nifer o ranbarthau Cymru o bedwar i dri.

Mae pryderon ymysg cefnogwyr y Gweilch y bydd eu rhanbarth yn cael ei thraflyncu gan Gaerdydd os ydy eu perchnogion, Y11, yn cymryd rheolaeth dros ranbarth y brifddinas hefyd.

Mae ymddiriedolaeth cefnogwyr Caerdydd, CF10, hefyd wedi dweud nad ydyn nhw’n croesawu dewis Y11 fel perchnogion arnyn nhw.

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran yr URC eu bod nhw wedi “cyfarfod heddiw ac ystyried yr argymhelliad gan y tîm arweinyddiaeth weithredol am werthu Rygbi Caerdydd”.

“Adolygodd y bwrdd y ddau gynnig olaf yn fanwl a chymeradwyodd yn unfrydol y cynnig i symud ymlaen yn unigol gydag un cynigydd,” medden nhw.

Ychwanegodd y llefarydd: “Mae yr URC yn gobeithio cwblhau’r trafodaethau manwl gyda’r cynigydd dewisol a llofnodi cytundeb o fewn ychydig wythnosau.”

Mae yna amheuon a fydd yr un rhanbarth yn diflannu cyn tymor 2027–28 oherwydd ymrwymiad Undeb Rygbi Cymru i ddarparu pedwar rhanbarth ar gyfer cynghrair Pencampwriaeth Rygbi Unedig.

Llun: Huw Evans.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.