Cyn-faer Lerpwl a Derek Hatton wedi eu cyhuddo o lwgrwobrwyo
Mae Heddlu Glannau Mersi wedi cyhoeddi bod 12 o bobl wedi’u cyhuddo o droseddau o lwgrwobrwyo a chamymddwyn yn dilyn ymchwiliad yn ymwneud â chytundebau masnachol a busnes gan Gyngor Dinas Lerpwl rhwng 2010 a 2020.
Ymysg y 12 sydd wedi eu cyhuddo mae cyn-faer Lerpwl, Joe Anderson, a'r cyn-wleidydd Derek Hatton, oedd yn amlwg ym myd gwleidyddol y ddinas yn ystod 80au'r ganrif ddiwethaf.
Y 10 arall o Lerpwl sydd wedi eu cyhuddo yw David Anderson sy'n 37 oed, Andrew Barr sy'n 51 oed, Phillipa Cook sy'n 49 oed, Alex Croft, 29 oed, Julian Flanagan, 53 oed, Paul Flanagan, 61 oed, Sonjia Hatton, 49 oed, Nicholas Kavanagh, 56 oed, Adam McLean, 54, a James Shalliker sy'n 38 oed.
Bydd y 12 yn ymddangos yn Llys Ynadon Preston ar 28 Mawrth.