Newyddion S4C

Jade Jones yn ymddeol o taekwondo er mwyn bocsio

Jade Jones
Jade Jones

Mae'r bencampwraig taekwondo Jade Jones o'r Fflint wedi dweud ei bod yn ymddeol o'r gamp er mwyn canolbwyntio ar focsio.

Dywedodd Jones, sy'n 31 oed, bod ganddi "freuddwydion mawr" gyda'i bryd ar ddod yn bencampwr byd mewn dwy gamp.

Mae'r Gymraes wedi bod yn bocsio ers deufis ac yn hyfforddi gyda'r cyn-focsiwr proffesiynol Stephen Smith.

"Mae'n nerve-wracking. Rhai dyddiau dw i'n deffro ac yn meddwl, 'Ydw i'n hollol wallgof?'" meddai wrth raglen BBC Breakfast.

"Dw i wrth fy modd. Dw i wrth fy modd efo taekwondo, bydd bob amser fy nghariad cyntaf. 

"Ond mae hon yn her gyffrous. Dim ond ers dau fis dw i wedi bod yn ei wneud."

'Bocsio yn dda i mi'

Yn ôl Jones, mae hi theulu'n meddwl ei bod yn "wallgof".

"Dydw i ddim yn gwybod beth roddodd y syniad i mi, ro'n i'n eistedd yn fy nghegin ac yn meddwl, 'Na i drio bocsio'," meddai.

"Mae fy nheulu i gyd yn meddwl fy mod i'n wallgof, ond mae pobl sy'n fy adnabod yn gwybod ei fod y tu mewn i mi, dw i wrth fy modd yn cael ymladd a sgrap."

Fe aeth ymlaen i ddweud: "Gall pobl ddilyn fy nhaith, y da, y drwg a’r hyll - alla i gyrraedd y brig? A fydda i'n methu?

"Y freuddwyd yw bod yn bencampwr byd. Byddai bod yn bencampwr byd mewn dwy gamp yn eithaf cŵl."

Mae Jones wedi cynrychioli Team GB mewn pedair Gemau Olympaidd, gan ennill dwy fedal aur - un yn Llundain 2012, a'r llall yn Rio 2016.

Roedd hi wedi gobeithio ennill ei thrydedd fedal aur, ond fe gafodd ei siomi yng Ngemau Tokyo 2020.

Ac roedd ei hymgais i greu hanes yn Paris 2024 ar ben unwaith eto ar ôl iddi golli yn rownd gyntaf y gystadleuaeth taekwondo -57kg.

Mae Jones bellach wedi dewis camu i ffwrdd o'r gamp.

"Mae fy nheulu wedi bod ychydig yn drist amdanaf yn rhoi’r gorau i taekwondo," meddai.

"Dydw i erioed wedi defnyddio fy nwylo. Ar ôl 20 mlynedd o ddefnyddio fy nhraed dw i'n newid pethau.

"Mae bocsio yn dda i mi. Dechreuodd fel rhywbeth i dynnu sylw ond nawr rydw i'n mynd i fynd amdani, achos dw i wrth fy modd."

Llun: Sportsfile / Getty Images

 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.