Newyddion S4C

'Oedd domestic abuse yn naturiol': Dynes o Lŷn yn cynnig gobaith i ferched eraill

Heno Newydd 2025

'Oedd domestic abuse yn naturiol': Dynes o Lŷn yn cynnig gobaith i ferched eraill

Rhybudd - cynnwys sensitif: mae'r erthygl hon yn trafod camdriniaeth ddomestig, cyffuriau a hunanladdiad

Mae dynes o Ben Llŷn sydd wedi dioddef o gamdriniaeth ddomestig yn y gorffennol yn awyddus i helpu merched eraill sydd wedi cael profiadau tebyg.

Roedd bywyd yn anodd iawn i Lianne Jones o Fynytho o oed cynnar wrth iddi wynebu a phrofi camdriniaeth ddomestig ar yr aelwyd adref.

“Dwi erioed rili wedi siarad amdano fo…y cyfnod yna” meddai mewn cyfweliad gyda rhaglen Heno ar S4C.

“Mi oedd bywyd adra yn chaotic, odd hi’n anodd bod o gwmpas yr alcohol a’r abuse.”

Roedd hi tua saith oed yn dod ar draws y gamdriniaeth am y tro cyntaf, ond nid oedd hi’n deall yn iawn beth oedd yn digwydd.

“Do’n i’m yn gwybod yn yr oed yna be’ oedd o, ond dw i’n cofio’r teimlad o fod yn ofn” meddai.

Ychwanegodd ei bod wedi hel meddyliau ar hunanladdiad pan oedd hi’n iau, ac nad oedd hi’n gwybod sut i ymdopi â’i theimladau, nac yn gwybod lle i droi am gymorth.

“O’n i’n teimlo ar ben fy hun” meddai, “does ‘na’m un plentyn eisiau gweld abuse, dim un plentyn eisiau cael eu abuseio… yr unig beth ydan ni’i eisiau ydi cael ein caru”.

Cylch dieflig

Wrth i Lianne dyfu a dod yn oedolyn, roedd camdriniaeth ddomestig yn dal yn gysgod ar ei bywyd, ac roedd hi’n ei chael yn anodd i dorri’r cylch dieflig.

“Ond o’n i’n gweld hynny’n naturiol” meddai.

“Doeddwn i’m yn chwilio amdano fo, ond mi o’n i’n berson vulnerable hefyd..yfed oedd fy mhroblem fwyaf i”.

Ychwanegodd ei bod yn yfed alcohol er mwyn peidio gorfod meddwl am yr hyn y mae wedi bod drwyddo yn y gorffennol.

“O’n i mewn cycle o yfed, cymryd overdose, mynd i’r ysbyty a chael asesiad, ac wedyn mynd adra a gwneud yr un peth eto”.

“Neshi golli plant ac mi oedd o’n rili anodd, ac am sbel, aeth pethau’n waeth.

“Pwy sydd eisiau sbio ar eu hunain pan maen nhw’n gwneud pethau’n anghywir? Pan maen nhw’n brifo pobl?

“O’n i’n gorfod newid” meddai, “oedd rhaid i fi newid”.

Gwellhad

Mae Lianne bellach wedi bod yn sobr ers dwy flynedd, a dywedodd ei bod yr hapusaf iddi fod erioed.

“Mae ‘di bod yn siwrne, ond heddiw dwi’n hapus efo bywyd a lle mae bywyd yn mynd a fi” meddai.

“Dw i ‘di gorfod dysgu caru fy hun a meddwl ‘ti’n neud yn iawn…ma’ pethau’n mynd yn ok.’” 

Ar ddechrau 2024, sefydlodd Lianne a’i phartner, Rob Havelock, a oedd hefyd ar yr un llwybr adferiad, Sober Snowdonia.

Grŵp cerdded wedi'i leoli yn Eryri i helpu gydag iechyd meddwl, lles a’r rhai sydd wedi bod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol ydy’r fenter.

Bwriad Sober Snowdonia ydy i “allu helpu pobl i rannu straeon” o’u gorffennol.

“Mae bod allan yn y mynyddoedd yn rhoi heddwch i rywun” meddai Lianne.

Dywedodd partner Lianne, Rob Havelock, ei bod wedi ei “helpu gymaint” drwy gydweithio ar y fenter Sober Snowdonia.

“Hebddi hi, fyswn i’m yn sefyll yma heddiw dwi’m yn meddwl” meddai.

Cyfle newydd

Mae Lianne hefyd wedi sefydlu’r fenter Beginnings gan obeithio y byddai’n gallu helpu merched eraill sydd wedi cael yr un profiadau â hi.

“Mae’n bwysig bod o’n gallu helpu pobl eraill, merched eraill sydd wedi bod drwy domestic abuse, a dangos bod ‘na chance newydd ar fywyd” meddai.

Eglurodd Lianne ei bod wedi cael cyfnodau o deimlo’n unig iawn dros y blynyddoedd, ond ei bod bellach am i bobl wybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain.

“Weithiau mae pobl yn teimlo bod nhw ar ben eu hunain, ond dydach chi ddim” meddai.

“Gesh i gymryd y cyfle newydd” meddai, “a dwi wedi gallu newid fy hun… dwi jysd yn gobeithio fedra i helpu merched eraill ar y siwrne hefyd”.

“Dwi’m angen sbïo’n ôl… dwi ond angen sbïo ymlaen”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.