Galwadau i urddo ‘arwr’ rygbi’r gynghrair, Billy Boston
Mae ASau yn galw am ddod â’r “sgandal” nad oes unrhyw chwaraewr rygbi'r gynghrair wedi’i urddo’n farchog o’r blaen i ben, gan ddechrau gyda Billy Boston.
Sgoriodd Boston, sydd wedi’i eni yng Nghymru, 478 o geisiadau i Wigan ar ôl newid o rygbi’r undeb i’r gynghrair yn 1953.
Dywedodd yn 2016 ei fod wedi bod yn byw gyda dementia fasgwlaidd.
Mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, Syr Lindsay Hoyle, wedi dweud yn flaenorol ei fod yn “anghyfiawnder mawr” nad oes unrhyw chwaraewr rygbi’r gynghrair erioed wedi cael ei urddo’n farchog.
Dywedodd Josh Simons, AS Llafur dros Makerfield bod gwleidyddion wedi bod yn ymgyrchu dros gydnabyddiaeth well i rygbi’r gynghrair.
“Cyn i mi ddod i mewn i’r siambr hon, cefais wybod nad yw Billy’n iach, ac mae cynghorwyr lleol yn fy etholaeth wedi dechrau deiseb i sicrhau ei fod yn cael ei urddo’n farchog tra bod hynny’n dal yn bosibl.” meddai.
“Mae’n sgandal nad oes unrhyw arwr rygbi’r gynghrair wedi’i urddo’n farchog ers dros ganrif, sgandal y mae’n rhaid i ni ei gydnabod.”
“Felly a yw’r Arweinydd yn cytuno â mi y dylai Billy Boston fod yn Syr Billy Boston, tra bod hynny’n dal yn bosibl?” gofynnodd.
“Mae’n amser i’w berfformiad ar y cae ac oddi arno gael ei gydnabod.”