Newyddion S4C

'Cymru v Lloegr': Lauren Price yn amddiffyn teitl Pencampwr y Byd

Lauren Price

Mae’r Gymraes Lauren Price yn cystadlu i amddiffyn ei theitl pencampwriaeth pwysau welter y byd yn erbyn Natasha Jonas o Lerpwl yn Neuadd Albert yn Llundain nos Wener.

Mae Price, o Gaerffili, yn amddiffyn gwregys pwysau welter y WBA, IBO a chylgrawn Ring, gyda Jonas yn amddiffyn gwregys WBC a’r IBF gyda’r enillydd yn cyfuno’r teitlau.

Price yw’r ffefryn am yr ornest ac os y bydd yn ennill gall hynny arwain at wynebu Pencampwr Sefydliad Bocsio'r Byd, Mikaela Mayer.

Wrth i’r cystadleuwyr gyfarfod ddydd Iau i bwyso fe wnaeth hyfforddwr Jonas, Joe Gallagher, gwyno nad oedd y glorian wedi ei cael ei dilysu’n gywir.

Daeth y digwyddiad i ben gydag ysgwyd llaw cynnes rhwng y ddau bencampwr.

Enillodd Price, 30, fedal aur Olympaidd yn Tokyo 2020 ac mae'n ddiguro mewn wyth gornest broffesiynol.

Dywedodd Price: “Cymru v Lloegr yw hi; mae'n gystadleuaeth Brydeinig. Mae gennych chi ddwy nid yn unig y gorau ym Mhrydain ond y gorau yn y byd yn mynd ati, gwregysau yn y fantol. Mae'n gyffrous.

“Fel paffiwr, dyna’r frwydr rydych chi’n codi amdani - y boreau cynnar, y mynd ar ddeiet, dyna sy’n eich cyffroi ac yn eich cadw i fynd.

"Dwi jyst yn edrych ymlaen at gynnig sioe a dwi'n meddwl y byddwch chi'n gweld lefel arall o fy ngêm yn dod allan.

“Dwi’n anelu i fod yr orau yn y byd yn y gamp.”

Fe fydd yr ornest yn cychwyn am tua 22:00 nos Wener.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.