Arwerthiant unigryw yn dangos 'hanes tywyll morwrol' Ynys Môn
Mae arwerthwr wedi disgrifio casgliad o eitemau, sydd wedi eu hachub o rai o longddrylliadau mwyaf adnabyddus Cymru, fel cipolwg ar “hanes tywyll morwrol” Ynys Môn.
Fe fydd dros 180 o wrthrychau morwrol yn mynd ar werth yn arwerthiant cwmni Rogers Jones yn Sir y Fflint ar ddydd Mawrth, 20 Ionawr.
Mae'r casgliad yn cynnwys eitemau fel pinaclau, cwmpawdau a chlychau – a rheiny wedi eu hachub o longddrylliadau adnabyddus fel llongau'r HMS Conway, y Royal Charter a'r HMS Mary.
Yn wyneb adnabyddus i wylwyr rhaglenni fel Bargain Hunt ac Antiques Road Show, mae Ben Rogers Jones yn arwerthwr profiadol a gafodd ei fagu ym Môn.
Mae’n dweud fod casgliad o’r math yma yn “brin nid jyst i ni ond dros y byd."
Mae pobl o bell ac agos wedi mynegi diddordeb yn yr eitemau, gydag unigolion yn America yn gobeithio am lwyddiant yn ystod yr arwerthiant ddydd Mawrth.
Daw’r casgliad o gasgliad preifat ar arfordir Ynys Môn ac mae disgwyl iddo fod yn werth dros £20,000.
“Mae’n rili prin i gael casgliad enfawr fel hwn, mae jyst yn masif,” meddai Ben.
“Lle'r oedd o yn y tŷ dwi ddim yn gwybod – mae jyst yn anhygoel, maint y casgliad. Mae ‘na range diddorol ac eclectig.
“Ond jyst y maint – ti jyst ddim yn credu, i gadw’r casgliad yn y tŷ – waw.”
Hanes 'trist a diddorol'
Fel “boi Sir Fôn,” dywedodd Ben ei fod yn teimlo “cysylltiad” gyda'r hanes y tu ôl i’r casgliad.
“Dwi 'di tyfu fyny yn Sir Fôn, dwi’n cofio ffotograff… o HMS Conway yn restio ar y traeth yn Bangor yn tŷ gyda ni so mae hwn yn ddiddorol i fi,” esboniodd.
Dywedodd fod ‘na gysylltiadau hanesyddol lleol pwysig ynghlwm â’r casgliad, yn ogystal â diddordeb cyffredinol ehangach.
“Er enghraifft, lot 55, mae ‘na canon o His Majesty’s Yacht Mary sydd wedi suddo yn 1690.
“Roedd yn gwch hwylio brenhinol y Llynges Frenhinol o’r ail ganrif ar bymtheg felly mae hwnna’n rili diddorol a mae lot o ddiddordeb yn hwn cyn y sale.
“Mae ‘na lot o ddiddordeb o bethau y Royal Charter. Odd y Royal Charter yn gwch enwog a suddodd yn 1859.
“Roedd yn rili drist, roedd ‘na dim ond tua 40 o bobl wedi eu hachub o ryw 400 o bobl.
“Yn enwog, roedd 'na cargo enfawr o aur sydd wedi mynd o dan y môr. Mae pobl yn dweud os roedd yr aur yn dod i’r farchnad rŵan, maen nhw’n dweud bod y gwerth rhywbeth fel £170 miliwn.
“Mae hwnna o dan y môr yn Sir Fôn!
“Hefyd mae ‘na gwch enwog HMS Conway, mae hwn yn llong ysgol aeth i’r lan ar Y Fenai yn 1953 so mae lot o bobl yn Sir Fôn yn cofio hwnna ac yn cofio’r llong jyst yn ymlacio ar lan y môr ochrau Bangor ar Y Fenai.
“Mae ‘na 15 o lot gan longddrylliadau,” ychwanegodd. “Mae’n adrodd hanes tywyll morwrol Sir Fôn.”
Lluniau: Rogers Jones
