Cyhuddo tri dyn o dyfu canabis mewn adeilad yn Nolwyddelan
Mae tri dyn wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad ag ymchwiliad i dyfu canabis y tu mewn i adeilad yn ardal Dolwyddelan yn gynharach yr wythnos hon.
Nos Lun, fe ddaeth swyddogion o hyd i dri dyn ger cyfeiriad ar Ffordd Pendre a'u harestio ar amheuaeth o fod yn gysylltiedig â chynhyrchu canabis.
Cafodd y tri eu cyhuddo'n ddiweddarach.
Fe wnaeth Kristi Agaci, 21 oed; Klevis Barci, 20 oed; ac Anthony Hunt, 56 oed, sydd oll heb gyfeiriad sefydlog, ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ar gyfer gwrandawiad dydd Iau.
Cafodd y dynion eu cadw yn y ddalfa a byddant yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar 16 Chwefror.
