Newyddion S4C

Dynes o Benrhyndeudraeth wedi marw ar ôl disgyn o gwch camlas

Camlas Kennet a Avon

Bu farw pensiynwraig o Benrhyndeudraeth ar ôl iddi syrthio o gwch camlas tra ar wyliau teuluol, clywodd cwest.

Aeth Margaret Billings, dynes 78 oed, yn sownd rhwng cwch a chei camlas Kennet ac Avon yn Devizes, Wiltshire y llynedd.

Clywodd Llys Crwner Swydd Wilton a Swindon fod Billings wedi marw yn fuan wedyn yn y fan a’r lle brynhawn 27 Mehefin.

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd ei gŵr, Michael, eu bod wedi bod yn briod ers 51 mlynedd a’u bod wedi bod ar nifer o wyliau ar gychod gyda’i gilydd.

Cofnododd crwner yr ardal, Ian Singleton, gasgliad o farwolaeth ddamweiniol.

“Ar 27 Mehefin, 2024, roedd Margaret Billings yn teithio gyda’i theulu a ffrindiau ar gwch camlas i gyfeiriad Bradford upon Avon,” meddai.

“Roedd Margaret wedi bod ar ryw 20 o deithiau tebyg yn y gorffennol ac yn cael ei hystyried yn brofiadol.

“Wrth i'r cwch nesáu at Devizes, roedd Margaret yn sefyll ar y cwch rhyw 3 troedfedd i ffwrdd o'r starn gan ddal gafael ag un llaw.

“Mewn amgylchiadau sy’n parhau i fod yn aneglur, gadawodd Margaret y cwch ac roedd yn y dŵr rhwng y cwch a’r clawdd gyda’r pellter rhwng y ddau yn lleihau’n gyflym.

“Cafodd Margaret ei dal rhwng cwch y gamlas a’r clawdd, a achosodd anafiadau helaeth i’w brest a’i phen.

“Cafodd Margaret ei thynnu o’r dŵr ac er gwaethaf ymdrechion y parafeddygon, cyhoeddwyd ei bod wedi marw yn y fan a’r lle.”

Llun: Canal & River Trust

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.