Cyhuddo dyn 50 oed o Gaerffili o dreisio merch 14 oed
Mae dyn 50 oed o Gaerffili wedi ei gyhuddo o dreisio merch 14 oed, a nifer o droseddau eraill.
Derbyniodd yr heddlu adroddiad am yr ymosodiad am 19:30 ar nos Sul 2 Mawrth.
Mae'r dyn bellach wedi ei gyhuddo a’i gadw yn y ddalfa ar ôl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Iau.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Uwcharolygydd Michelle Chaplin: "Rydym yn deall y pryder a'r dicter y gall adroddiadau o'r math yma eu cael yn ein cymunedau.
"Gyda chymorth a gwybodaeth gan y dioddefwr, roedd ein swyddogion yn gallu nodi lleoliad y troseddau a adroddwyd ac arestio dyn 50 oed o'r ardal ar yr un diwrnod â'r drosedd.
“Mae’r dyn wedi ei gadw yn nalfa’r heddlu ers iddo gael ei arestio ac mae bellach wedi’i gyhuddo o’r troseddau hynny.”