Apêl am wybodaeth wedi i bont hanesyddol gael ei difrodi
Mae'r heddlu yn ardal Wrecsam yn ymchwilio i ddifrod i bont hanesyddol.
Cafodd y Tîm Troseddau Cefn Gwlad wybod yn ddiweddar gan CADW am ddifrod i bont Bangor Is-coed, sy'n deillio o'r oesoedd canol ac mae'n croesi Afon Dyfrdwy.
Dywedodd PC Allen o’r Tîm Troseddau Cefn Gwlad: “Mae’r arwyddion cychwynnol yn awgrymu bod pobl wedi’u gweld yn gynnar ym mis Ionawr yn tynnu pren i fyny dros ochr y bont, oedd wedi’i ddal o dan y bont yn dilyn y stormydd diweddar.
“Y gred yw bod y weithred hon oedd heb awdurdod wedi achosi difrod i’r gwaith carreg a’r strwythr haearn ar barapet ar ochr y bont.
“Rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd hyn yn digwydd, a gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni ar 101, neu drwy’r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 25000166824."