Newyddion S4C

Amgueddfa Lechi i roi metel yn hytrach na llechi ar do ei siop newydd

06/03/2025
Amgueddfa Lechi Cymru.png

Bydd amgueddfa yn Eryri sy'n adrodd hanes sut roedd llechi Cymreig unwaith yn toi'r byd yn defnyddio metel ar doeau rhai o'i hadeiladau newydd. 

Fe wnaeth Cyngor Gwynedd gymeradwyo cais i gwblhau gwaith adfer yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yr wythnos hon.

Ond roedd rhai cynghorwyr wedi cwestiynu'r bwriad o ddefnyddio metel, yn hytrach na llechi, ar doeau ei siop a chanopi ymwelwyr.

Roedd y cynigion, a gyflwynwyd gan Amgueddfa Cymru, yn disgrifio newidiadau mewnol ac allanol i safle rhestredig Gradd I Gilfach Ddu.

Mae’r newidiadau ar y safle yn cynnwys dymchwel y caffi a’r siop, a chodi adeiladau newydd.

Cyhoeddodd yr amgueddfa ym mis Tachwedd 2024 ei bod yn cau ei drysau am flwyddyn er mwyn cwblhau'r gwaith ailddatblygu gwerth £21 miliwn. 

Roedd y cynlluniau yn disgrifio sut mae'r siop bresennol yn siâp crwn, ond byddai'r adeilad newydd yn sgwâr.

"Bydd ganddo gladin GRC, sef paneli concrit cyfnerth, wedi’u lliwio’n goch gyda tho metel llwyd. Byddai'r ffenestri a'r drysau hefyd mewn metel," medden nhw.

"Gyferbyn â'r siop mae 'na fwriad i godi canopi newydd a fyddai'n cynnig lloches i ymwelwyr. Bydd mewn siâp sgwâr gyda tho o gynfasau rhychiog coch a byddai’r ochrau i gyd yn agored."

Roedd y cynlluniau hefyd yn nodi bod yr adeiladau newydd wedi eu "cynllunio’n ofalus" i gyd-fynd â’r safle presennol. 

'Angen cadw cymeriad'

Wrth siarad yn y cyfarfod ddydd Llun, roedd cynghorwyr lleol wedi dangos cefnogaeth i'r gwaith adfer. 

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Jones ei fod yn "gefnogol" i’r cais, yn enwedig o ran adeiladu caffi a chyfleusterau hygyrch.

Ond holodd pam nad oedd llechi’n cael eu defnyddio ar gyfer thoeon y siop a'r ganolfan ymwelwyr.

"Mae’r cynnig yn creu amgylchedd iach a bywiog ac yn gwella profiad yr ymwelydd, bydd yn arwain at fwy o ymwelwyr yn dod i’r safle yn y dyfodol," meddai. 

"Mae’r gwaith adfer a’r addasiadau yn hanfodol ac yn dderbyniol."

Ond ychwanegodd ei fod yn teimlo'n "anghyffyrddus" nad oes cynlluniau i roi llechi ar y toeau.

"Wedi’r cyfan, mae adeiladau ar draws y byd wedi’u toi â llechi o’r fan hon, felly dwi’n meddwl tybed pam na wnaethon nhw ddewis llechi?" gofynnodd.

Fe wnaeth y swyddog cynllunio Keira Sweenie amddiffyn y syniad.

"Weithiau roedd defnydd gormodol o lechi yn gwneud adeiladau newydd yn fwy anodd eu darllen a bydd yn haws dehongli fel ychwanegiad modern yn hytrach nag adeilad traddodiadol," meddai.

Dywedodd y Cynghorydd Elfed Williams ei fod wedi siarad â’r Cynghorydd Gwilym Evans, y ddau yn cynrychioli ward leol.

Gyda’i gilydd roedden nhw wedi penderfynu nad oedden nhw'n gwrthwynebu'r cynlluniau. 

"Os gwelwch yn dda, gofynnwn iddynt gadw cymeriad yr adeiladau fel y buont yn y gorffennol," meddai.

Mae'r Cynghorydd Edgar Owen wedi argymell caniatáu'r cynllun yn unol ag argymhellion y swyddog cynllunio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.