Cymru Premier JD: Ras am y chwech uchaf yn cyrraedd uchafbwynt nos Wener

CPD Caernarfon

Bydd rhan gynta’r tymor yn dod i ben nos Wener wrth i’r ras am y Chwech Uchaf gyrraedd ei huchafbwynt.

Bydd y gynghrair yn cael ei hollti’n ddwy ar ddiwedd y noson ac am weddill y tymor bydd y Chwech Uchaf yn cystadlu am y bencampwriaeth, ac yn paratoi am y gemau ail gyfle i gyrraedd Ewrop.

Bydd clybiau’r Chwech Isaf yn brwydro i aros yn y gynghrair, ac yn anelu am y 7fed safle er mwyn cipio’r tocyn olaf yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.

Mae’r Seintiau Newydd, Cei Connah, Pen-y-bont a Chaernarfon eisoes wedi sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf, ond mae’r ddau safle olaf yn dal yn y fantol gyda Bae Colwyn, Y Barri, Met Caerdydd a Hwlffordd yn gobeithio hawlio lle ymysg yr elît.

Gobaith bychan iawn sydd gan Hwlffordd o gyrraedd yr hanner uchaf, tra bod Bae Colwyn yn edrych yn weddol gyfforddus yn y 5ed safle, er bod gan y Gwylanod gêm galed oddi cartref yn erbyn Y Seintiau Newydd.

Ond gwahaniaeth goliau’n unig sy’n gwahanu'r Barri (6ed) a Met Caerdydd (7fed) ac felly mae’n gaddo i fod yn noson gyffrous yn y Cymru Premier JD.

Nos Wener, 9 Ionawr

Caernarfon (4ydd) v Cei Connah (2il) | Nos Wener – 19:45

Roedd hi’n ymddangos fel bod y ras am y bencampwriaeth ar ben ar ddechrau mis Rhagfyr pan oedd Y Seintiau Newydd 12 pwynt yn glir ar frig y Cymru Premier JD, ond mae Cei Connah wedi llwyddo i ail-danio’r cyffro yn y gystadleuaeth drwy ennill wyth gêm gynghrair yn olynol a chau’r bwlch rhyngddyn nhw â’r pencampwyr i bedwar pwynt.

Dyma rediad gorau Cei Connah yn yr uwch gynghrair ers tymor 2020/21 pan enillon nhw naw gêm yn olynol gan fynd ymlaen i sicrhau’r bencampwriaeth am yr ail flwyddyn o’r bron.

Mae’r bartneriaeth ymosodol rhwng Harry Franklin a Rhys Hughes wedi profi’n ffrwythlon i’r Nomadiaid y tymor hwn gyda’r ddau wedi cyfrannu at dros 20 gôl gynghrair yr un.

Fel Cei Connah, mae Caernarfon wedi hawlio eu lle yn yr hanner uchaf, ond mae gan y Cofis waith i’w wneud os am gystadlu am un o’r safleoedd awtomatig yn Ewrop.

Caernarfon oedd ar frig y gynghrair wedi saith gêm gynta’r tymor, ond bellach mae’r Caneris yn y 4ydd safle, 17 o bwyntiau y tu ôl i’r ceffylau blaen ar ôl ennill dim ond un o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf.

Bydd Richard Davies yn gobeithio y gall ei ymosodwr newydd, Brad Young greu argraff yn syth wedi i’r blaenwr ifanc 22 mlwydd oed, a enillodd yr Esgid Aur gyda’r Seintiau Newydd yn 2023/24, ymuno â’r Cofis yr wythnos yma ar ôl cyfnod yn Saudi Arabia.

Tydi Caernarfon heb golli dim un o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf yn erbyn Cei Connah, a’r Cofis oedd yn dathlu wedi’r gêm gyfatebol ym mis Medi ar ôl ennill o 2-1 ar Gae-y-Castell.

Record cynghrair diweddar: 

Caernarfon: ͏➖❌➖❌✅

Cei Connah: ✅✅✅✅✅

Hwlffordd (8fed) v Llansawel (9fed) | Nos Wener – 19:45

Yn fathemategol, mae Hwlffordd yn dal yn y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf, ond byddai’n rhaid i’r Adar Gleision wyrdroi’r 16 gôl o fantais sydd gan Y Barri o ran gwahaniaeth goliau os am godi i’r Chwech Uchaf, sy’n bur annhebygol.

Ac felly, canolbwyntio ar gystadlu am y 7fed safle fydd y nod i Tony Pennock a’r tîm er mwyn cyrraedd y gemau ail gyfle am Ewrop ar ddiwedd y tymor.

Wrth ystyried bod Hwlffordd wedi gorffen yn 3ydd llynedd a chystadlu’n Ewrop dros yr haf, mae hi wedi bod yn hanner cyntaf siomedig i’r tymor i garfan Sir Benfro, ond ar ôl colli dim ond un o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf mae hyder hogiau Hwlffordd yn dechrau codi eto.

Dau bwynt yn unig sy’n gwahanu Hwlffordd a Llansawel, ac yna dau bwynt arall rhwng Llansawel a’r Bala yn safleoedd y cwymp.

Bydd pob gêm yn yr hanner isaf yn teimlo fel ‘gornest chwe-phwynt’ am weddill y tymor felly, gan mae pedwar pwynt sy’n gwahanu’r pedwar clwb sy’n brwydro i osgoi’r cwymp.

Mae Hwlffordd wedi ennill eu tair gêm flaenorol yn erbyn Llansawel, yn cynnwys buddugoliaeth o 1-0 ar yr Hen Heol ym mis Awst diolch i gôl hwyr Alaric Jones.

Record cynghrair diweddar: 

Hwlffordd: ❌✅➖✅➖

Llansawel: ͏❌➖❌➖✅

Pen-y-bont (3ydd) v Met Caerdydd (7fed) | Nos Wener – 19:45

Bydd Met Caerdydd yn awyddus i achosi ychydig o ddrama nos Wener gyda’r clwb sy’n 7fed yn anelu i gamu i’r Chwech Uchaf ar yr eiliad olaf.

Mae Met Caerdydd yn hafal ar bwyntiau gyda’r Barri (6ed), ond mae gan y Barri saith gôl o fantais o ran gwahaniaeth goliau, ac felly bydd rhaid i’r myfyrwyr gael canlyniad gwell na’r Dreigiau nos Wener.

Un llwybr arall i Met fyddai ceisio gwyrdroi’r wyth gôl o wahaniaeth sydd rhyngddyn nhw a Bae Colwyn (5ed), sy’n golygu byddai’n rhaid i’r blaenwyr fod ar eu gêm nos Wener.

Yn anffodus i Ryan Jenkins, does dim un unigolyn penodol wedi serennu o flaen gôl i Met Caerdydd y tymor hwn gan mae Jasper Payne ac Adam Roscrow yw’r prif sgorwyr gyda dim ond pum gôl yr un.

Mae Met Caerdydd wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhob un o’r tri tymor diwethaf, ac felly fe fyddai’n dipyn o siom i Ryan Jenkins pe bae ei garfan yn methu’r nod eleni.

Mae Pen-y-bont yn ddiogel yn y Chwech Uchaf, ond ers colli o 5-4 yn erbyn Bae Colwyn ym mis Tachwedd, does dim llawer o goliau wedi eu sgorio ym mhedair gêm ddiwethaf Pen-y-bont (Pen 1-1 Barri, Pen 0-1 Ffl, Pen 1-1 Lls, Lli 0-1 Pen).

James Crole oedd yr arwr yn yr ornest ddiwethaf rhwng y timau, yn sgorio hatric mewn buddugoliaeth o 4-0 ar Gampws Cyncoed ym mis Medi.

Record cynghrair diweddar: 

Pen-y-bont: ͏ ✅❌➖➖✅
Met Caerdydd: ͏➖✅➖❌➖

Y Barri (6ed) v Llanelli (12fed) | Nos Wener – 19:45 (Arlein)

Mae’r Barri’n dechrau’r noson yn y 6ed safle, yn hafal ar bwyntiau gyda Met Caerdydd (7fed) ond gyda saith gôl o fantais o ran gwahaniaeth goliau, ac felly dylai buddugoliaeth yn erbyn Llanelli fod yn ddigon i gadarnhau eu lle’n y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2020/21.

Daeth Y Barri mor agos i gyrraedd y Chwech Uchaf y tymor diwethaf cyn boddi wrth y lan, a bydd Steve Jenkins yn benderfynol o osgoi’r un dynged eleni.

Dyw Llanelli m’ond wedi cipio un pwynt o’u 11 gêm gynghrair ddiwethaf, ac ar ôl sgorio dim ond 11 gôl mewn 21 gêm tydi pethau ddim yn argoeli’n dda i dîm Lee John.

Mae Llanelli’n sicr o orffen rhan gynta’r tymor ar waelod y tabl, ac ers ffurfio’r fformat presennol yn 2010, does dim un tîm erioed wedi llwyddo i ddringo allan o safleoedd y cwymp ar ôl dechrau ail ran y tymor ar waelod y gynghrair.

Mae’r Barri eisoes wedi curo Llanelli deirgwaith y tymor hwn a hynny heb ildio unwaith, a dyw’r Dreigiau heb golli yn erbyn y Cochion ers 12 mlynedd pan oedd y clybiau’n cystadlu yn y bedwaredd haen.

Record cynghrair diweddar: 

Y Barri: ✅➖✅❌❌

Llanelli: ➖❌❌❌❌

Y Fflint (10fed) v Y Bala (11eg) | Nos Wener – 19:45

Bydd hi’n ornest hollbwysig am resymau gwahanol ar Gae-y-Castell gan mae dim ond pwynt sy’n gwahanu’r Fflint a’r Bala yn y frwydr i osgoi’r cwymp.

Mae’r Bala wedi bod yn aelodau o’r uwch gynghrair ers 16 mlynedd, ac o’r clybiau presennol, Y Seintiau Newydd yw’r unig glwb arall sydd wedi aros yn y gynghrair yn ddi-dor ers tymor cynta’r Bala yn 2009/10.

Ond ar ôl 12 mlynedd yn y Chwech Uchaf, mae’r Bala wedi methu’r nod eleni ac mae’r clwb mewn perygl gwirioneddol o syrthio i’r ail haen ar ôl ennill dim ond un o’u 13 gêm ddiwethaf.

Roedd hi’n fuddugoliaeth haeddiannol i’r Fflint yn erbyn Bae Colwyn ar ddydd Calan a bydd Lee Fowler yn gobeithio am berfformiad cystal nos Wener.

Dyw’r Fflint m’ond wedi colli un o’u saith gêm ddiwethaf, ond mi fydd hi’n dasg anodd i’r Sidanwyr sydd heb ennill yn eu 14 gornest flaenorol yn erbyn Y Bala, ers Rhagfyr 2019 (colli 11, cyfartal 3).

Record cynghrair diweddar: 

Y Fflint: ➖➖➖❌✅

Y Bala: ❌➖❌❌❌

Y Seintiau Newydd (1af) v Bae Colwyn (5ed) | Nos Wener – 19:45

Ar ôl curo’r Bala nos Fawrth mae’r Seintiau bedwar pwynt yn glir ar frig y tabl, ond dyw’r ras am y bencampwriaeth yn sicr ddim drosodd eto, gan i Gei Connah brofi dros y misoedd diwethaf eu bod yn barod i gystadlu am y teitl yn ail ran y tymor.

Bydd criw Craig Harrison yn edrych dros eu hysgwyddau ac yn gwybod bod angen torchi llewys os am hawlio eu pumed bencampwriaeth yn olynol.

Byddai pwynt i Fae Colwyn yn Neuadd y Parc yn ddigon i gadarnhau eu lle yn yr hanner uchaf ar gyfer ail ran y tymor.

Fe wnaeth tîm Michael Wilde lwyddo i gipio pwynt yn erbyn y pencampwyr ar Ffordd Llanelian ym mis Awst gydag Aeron Edwards yn sgorio i’r Gwylanod yn erbyn ei gyn-glwb.

Erbyn hyn mae chwaraewr arall wedi gwneud y symudiad o Groesoswallt i Fae Colwyn wrth i’r amddiffynnwr 31 mlwydd oed Ryan Astles gwblhau ei drosglwyddiad yr wythnos hon.

Mae’r Gwylanod yn anelu i fod y clwb cyntaf i gyrraedd y Chwech Uchaf yn eu tymor cyntaf ar ôl sicrhau dyrchafiad ers i Gaernarfon wneud hynny yn 2018/19.

Record cynghrair diweddar: 

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅❌✅

Bae Colwyn: ͏❌✅❌✅❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.