Arestio dyn wedi i blentyn farw mewn gwrthdrawiad ar gae rygbi
Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus wedi i blentyn gael ei daro gan gar ar gae rygbi.
Cafodd swyddogion o Heddlu Cumbria eu galw i'r digwyddiad ychydig cyn 17:00 brynhawn dydd Mercher, yn dilyn adroddiad bod dau o blant wedi cael eu taro gan gar yng Nghlwb Rygbi Kendal.
Mae'r heddlu'n dweud bod un plentyn wedi marw ac mae'r llall yn derbyn triniaeth gan barafeddygon.
Mae teuluoedd y plant wedi cael gwybod am y digwyddiad.
Mae ymchwilwyr arbenigol yn lleoliad y gwrthdrawiad ac mae'r ardal ar gau wrth i ymholiadau cychwynnol gael eu cynnal.
Mae gyrrwr y car BMW i40 du, dyn yn ei 40au, wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Mae’r heddlu’n trin y gwrthdrawiad hwn fel digwyddiad ynysig.