Cydraddoldeb yn y gweithle: Y DU wedi cwympo i’w safle isaf ers degawd
Mae’r DU wedi cwympo i’w safle isaf mewn dros ddegawd ar restr sydd yn mesur cydraddoldeb rhywedd yn y gweithle.
Bellach mae’r DU wedi gostwng o’r 17eg safle yn 2022 i’r 18fed safle yn 2023.
Pwrpas Mynegai Menywod mewn Gwaith gan gwmni PwC yw asesu’r cynnydd tuag at gydraddoldeb rhywedd yn y gweithle mewn 33 gwlad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).
Daw’r adroddiad ddyddiau cyn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ddydd Sadwrn – sef diwrnod i ddathlu llwyddiannau menywod ac annog cynnydd mewn cydraddoldeb rhywedd.
Er bod y DU wedi gwneud cynnydd bychan, awgryma’r adroddiad fod gwledydd eraill yn gwneud cynnydd cyflymach wrth fynd i’r afael â materion megis y bwlch cyflog.
Mae ffactorau eraill megis cynnydd mewn diweithdra menywod a chynnydd yn y bwlch cyfradd cyfranogi rhwng y rhywiau, hefyd wedi cyfrannu at safle is y DU ar y mynegai.
Cau'r bwlch
Gwlad yr Iâ oedd yn y safle uchaf ar y mynegai, ac Iwerddon a gyflawnodd y cynnydd mwyaf gan gyrraedd y 6ed safle.
Am y tro cyntaf hefyd ers 2019, nid y DU sydd yn y safle uchaf o economïau gwledydd y G7, gyda Chanada bellach yn yr 17eg safle.
Yn ôl yr adroddiad, llwyddodd y DU i leihau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau o 1.2% rhwng 2022 a 2023.
Ond mae’r bwlch yn parhau i fod yn fwy na chyfartaledd gwledydd yr OECD.
Awgrymodd PwC y gallai gymryd 33 o flynyddoedd i gau’r bwlch hwn yn y DU.
Dywed yr adroddiad hefyd mai cyfradd cyflogi menywod llawn amser y DU yw 68.8%. Mae hwn yn is na chyfartaledd yr OECD o 78.1%.
O ganlyniad, roedd y DU yn y 27ain safle allan o’r 33 gwlad yn hyn o beth.
Gwelodd y DU gynnydd o 0.1% yng nghyfradd cyfranogiad y gweithlu benywaidd. Ond gwnaeth gwledydd eraill fwy o gynnydd.
Mae’r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd cydraddoldeb rhywedd yn y gweithle er budd cymdeithasol yn ogystal ag economaidd.
Mae PwC yn amcangyfrif bod y cynnydd mewn cyfranogiad benywaidd i’r gweithlu rhwng 2011-2023 wedi ychwanegu £6.2 biliwn i economi’r DU yn flynyddol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r ystadegau diweddaraf: "Rydyn ni’n parhau i fod yn ymrwymedig i greu Cymru fwy cyfartal a llewyrchus lle gall pawb gymryd rhan lawn yn ein heconomi a'n cymdeithas.
"Rydyn ni’n gweithio gyda chyflogwyr ac undebau i ddileu'r bylchau cyflog rhwng y rhywiau erbyn 2050.
“Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol, dull cydweithredol sy'n cynnwys cydweithredu rhwng y llywodraeth, undebau llafur a chyflogwyr i gyflawni nodau a rennir.”