Newyddion S4C

Dinas Mawddwy: Cerddwr wedi syrthio 20m mewn chwarel

05/03/2025
Achub mynydd Aberglaslyn

Syrthiodd cerddwr tua 20m mewn chwarel uwchben Dinas Mawddwy ddydd Sadwrn.

Llwyddodd 12 aelod o Dîm Chwilio ac Achub Aberdyfi i'w symud i ambiwlans a wnaeth ei gludo i'r ysbyty.

Dywedodd llefarydd ar ran y Tîm Chwilio ac Achub: "Brynhawn Sadwrn gofynnwyd i ni gynorthwyo cerddwr oedd wedi disgyn tua 20m yn un o'r chwareli uwchben Dinas Mawddwy.

"Gydag ambiwlans a HeliMedics eisoes ar y safle, gofynnwyd i ni symud yr unigolyn oedd wedi dioddef anaf i ambiwlans oedd yn aros ar gyfer y daith ymlaen i'r ysbyty.

"Fe aeth 12 aelod o'r tîm i fyny'r allt, a chael amser anodd wrth gario'r unigolyn yn ôl i lawr rhai rhannau serth iawn. Roedd pawb yn ôl lawr oddi ar yr allt erbyn 7pm."

Mae’r tîm wedi bod yn helpu pobl sydd wedi cwympo, neu sydd angen cymorth o gwmpas yr ardal yr Wyddfa a Chanolbarth Cymru, yn cynnwys ardaloedd Cadair Idris a Garan Fawddwy.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.