Trigolion cefn gwlad wedi eu ‘brawychu’ wrth i orsafoedd heddlu gau
Trigolion cefn gwlad wedi eu ‘brawychu’ wrth i orsafoedd heddlu gau
Sir Gar, Sir Benfro, Ceredigion a Phowys.
Mae'n ardal eang i'w heddlua ac yn gostus cynnal swyddfeydd penodol drwy drefi'r awdurdod.
Mae'r penderfyniad i gau a gwerthu chwech swyddfa'n rhan o gynllun i arbed £10 miliwn.
"Mae nifer o'r adeiladau ar draws rhanbarth Dyfed-Powys sydd yn ddwy rhan o dair o dirwedd Cymru wedi heneiddio ac mae angen buddsoddiad sylweddol i'r adeiladau yma."
Y pennawd fydd yn codi braw ar rai yw bod chwe swyddfa yn cau.
Chi'n deall y pryderon?
"Wrth gwrs, ond mae'r swyddogion dal yn weithgar a gweledol ond yn gweithio allan o adeilad gwahanol gyda'r frigad dân ac yn cydweithio gydag asiantaeth arall yn y gymuned."
Yma yn Llandeilo mae swyddfa'r heddlu yn agos iawn at yr orsaf dân leol lle fydd y swyddogion yn symud. Mae'n fater syml o groesi'r hewl.
Bwriad y cau yn ol y llu yw arbed arian ond maen nhw'n mynnu bydd presenoldeb y swyddogion mor amlwg ag erioed er gwaetha'r newid.
Er bydd swyddfeydd yn cau yn Arberth, Llandeilo, Llanymddyfri, Crughywel, y Gelli Gandryll a Llanfyllin mae'r heddlu yn tanlinellu bydd ymuno a'r frigad dan yn cadw presenoldeb ymhob un o'r trefi yma.
Cwyno am ddiffyg trafod gyda'r gymuned leol mae'r AS hwn.
"People here live in a rural idyll. They're seeing public services disappearing one by one.
"The most concerning thing was the fact that these closures were not communicated in advance.
"We heard a rumour they were going to close and then I received an email from the Police saying, yes, the Police Stations have been closed."
Yn ôl Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys bydd cau'r swyddfeydd yn gam ymlaen i foderneiddio a gwella'r gwasanaethau i alluogi swyddogion i barhau a'u gwaith yn fwy effeithlon.
Nid bod hynny'n lleddfu pryderon pawb yma yn Llandeilo.
"Licen i weld pan chi lawr yn y dref rhywun yn cerdded i gwrdd a chi a gwybod bod rhywun i gael yna."
Ydy hynny'n digwydd?
"Na, 'sa i di gweld nhw. Chi'n gweld ceir yn mynd trwyddo."
Chi'n gweld yr Heddlu o gwmpas y dref?
"Fi'n gweld nhw once in a blue moon yn pasio tŷ fi. Dim lot. Mae wedi mynd, mae isie'r Police."
Gweld y presenoldeb corfforol hwnnw sy'n bwysig i bobl leol yn bwysicach o bosibl nag adeiladau.