Newyddion S4C

Sêl bendith i bont droed £3m newydd dros Afon Conwy

05/03/2025
Y bont newydd

Mae cynllun i adeiladu pont droed newydd gwerth £3 miliwn dros Afon Conwy ym Metws-y-Coed wedi ei gymeradwyo.

Roedd arbenigwyr dylunio Comisiwn Dylunio Cymru wedi galw i’r cynllun gael ei ailfeddwl, ond fe gymeradwyodd aelodau pwyllgor cynllunio a mynediad Awdurdod Parc Eryri’r cynlluniau.

Y bwriad yw i’r bont newydd gymryd lle Pont Sappers, sy’n 95 oed ac yn cael ei hadnabod yn lleol fel y ‘Wobbly Bridge’, a gafodd ei chau i’r cyhoedd yn 2021 am resymau diogelwch.

Cwynodd pobl fusnes a thrigolion yr ardal fod cau’r bont yn achosi anghyfleustra allai o gwsmeriaid, gan annog Cyngor Sir Conwy i lunio cynlluniau ar gyfer un newydd.

Y cynllun diweddaraf yw i gael pont grog debyg sy’n bedwar metr o led – bron i dri metr yn lletach na’r un bresennol, gyda thyrrau metel talach ar bob pen.

Bydd mynediad ar y ddau ben hefyd i annog cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadeiriau olwyn i'w ddefnyddio.

Mae'r cyllid wedi dod gan y Llywodraeth.

Datgelodd adroddiad i’r pwyllgor cynllunio a mynediad ddydd Mercher fod Comisiwn Dylunio Cymru “yn ystyried nad yw’r cynnig yn atgynhyrchiad ffyddlon o’r bont bresennol nac yn adnewyddiad modern wedi’i ddylunio’n dda".

Mae’r cyngor wedi gwneud newidiadau i oresgyn rhai o’r pryderon gwreiddiol, ond dywedodd swyddogion cynllunio Awdurdod y Parc fod y bont newydd yn “fwy swmpus ac yn brin o geinder a gras y bont bresennol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.