Newyddion S4C

Ynys Môn: 'Pryder mawr' wrth i'r heddlu ymchwilio i dwyll honedig datblygwr pentref gwyliau

05/03/2025
Raid yn ymwneud a'r Seventy Ninth Group

Mae Cyngor Môn wedi dweud bod ymchwiliad heddlu i achos o dwyll honedig mewn cysylltiad â chwmni sydd yn bwriadu codi bron i 500 o fythynnod gwyliau ar safle Penrhos ar Ynys Môn wedi achosi "pryder mawr".

Dywedodd Heddlu Dinas Llundain eu bod nhw'n credu bod cwmni The Seventy Ninth Group wedi bod yn cynnig benthyciadau i fuddsoddwyr sydd ag enillion llog uchel dros gyfnod penodol.

Maen nhw wedi cyhoeddi datganiad yn apelio am ddioddefwyr posib.

Mae The Seventy Ninth Group yn gwadu eu bod wedi gwneud unrhyw beth o'i le, a'u bod yn "gweithio gyda’u cynghorwyr cyfreithiol i fynd i’r afael â’r honiadau a wnaed."

Ym mis Ionawr, fe gyhoeddodd y cwmni o Southport eu bod nhw wedi prynu safle Penrhos ar Ynys Môn a'u bod nhw’n bwriadu bwrw ymlaen gyda’r datblygiad gwerth £250 miliwn.

Bydd y safle 200 erw yn cael ei ddatblygu fel cyrchfan hamdden, gan gynnwys 492 "caban o ansawdd premiwm", meddai'r cwmni ar y pryd.

Y nod, meddai The Seventy Ninth Group bryd hynny, yw croesawu "miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn" yn ogystal a phobl leol i'r safle a fydd yn cynnwys bwyty a chyfleusterau hamdden, pwll nofio, sba, campfa, caeau chwaraeon a chyrtiau tenis.

Ar y pryd roedd Cyngor Môn wedi croesawu'r newyddion, gan ddweud eu bod yn edrych ymlaen at "sefydlu perthynas waith hirdymor" gyda'r cwmni.

Ond dywedodd prif weithredwr y cyngor, Dylan J. Williams, ddydd Mercher bod ymchwiliad yr heddlu'n achosi "pryder mawr".

 "Rydym yn ymwybodol o ymchwiliadau sy'n cael eu cynnal gan Heddlu Dinas Llundain mewn perthynas â The Seventy Ninth Group," meddai.

"Mae'r honiadau yma’n achosi pryder mawr."

Ychwanegodd na fyddai'r cyngor yn gwneud "unrhyw sylw pellach" nes bod ymchwiliadau'r heddlu wedi dod i ben.

'Ymchwilio'

Ddydd Gwener, dywedodd Heddlu Dinas Llundain bod pedwar o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â The Seventy Ninth Group.

Mae'r pobl a gafodd eu harestio bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ac mae ymholiadau’n parhau.

Dywedodd swyddogion eu bod wedi meddiannu "swm mawr" o arian parod, arfau, oriawr moethus a gemwaith yn dilyn cyrchoedd mewn pum eiddo gwahanol.

Image
Raid yn ymwneud a'r Seventy Ninth Group
Yr eitemau a gafodd eu meddiannu gan yr heddlu o bum eiddo

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Dinas Llundain: "Mae Heddlu Dinas Llundain yn ymchwilio i achos honedig o dwyll eang lle credir bod cwmni o’r enw The Seventy Ninth Group yn cynnig nodiadau benthyciad i fuddsoddwyr sydd ag enillion llog uchel dros gyfnod penodol.

"Mae The Seventy Ninth Group yn gweithredu yn y maes eiddo tirol ac yn honni eu bod yn arbenigo mewn caffael, rheoli a datblygu asedau proffidiol. Maen nhw'n cynnig cyfleoedd buddsoddi, gan werthu cytundebau benthyciad (loan notes) wedi'u gwarantu yn erbyn eiddo.

"Mae cyflwynwyr trydydd parti yn cysylltu â buddsoddwyr gan gynnig y cyfle i fuddsoddi gydag enillion sefydlog rhwng 12% am fuddsoddiad gwerth o leiaf £10,000, a 15% ar gyfer buddsoddiad gwerth o  leiaf £25,000.

"Mae The Seventy Ninth Group yn dweud wrth fuddsoddwyr bod arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer eiddo tirol, cyfoeth ac awyrennu (aviation). 

"Math arall o fusnes arall sy'n cael ei hysbysebu o dan The Seventy Ninth Group yw mwyngloddio am adnoddau naturiol mewn gwledydd fel Canada a Gini."

Ymateb y cwmni

Mewn datganiad, dywedodd The Seventy Ninth Group wrth Newyddion S4C: “Mae The Seventy Ninth Group yn gwadu’n bendant unrhyw gamwedd yn dilyn honiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Heddlu Dinas Llundain.

"Ers digwyddiadau’r wythnos ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio’n ddiwyd gyda’n cynghorwyr cyfreithiol i fynd i’r afael â’r honiadau a wnaed fel rhan o’r ymchwiliad, tra hefyd yn darparu gwybodaeth i bartneriaid busnes a rhanddeiliaid eraill.

“Mae’r cwmni hefyd wedi penodi cyfrifwyr fforensig annibynnol i gynnal adolygiad cynhwysfawr o’r busnes.

“Mae The Seventy Ninth Group yn parhau i fod yn ymrwymedig i wasanaethu ei gleientiaid yn y DU a ledled y byd.”

Cefndir

Roedd gwrthwynebiad chwyrn wedi bod i'r cynllun ar safle Penrhos ar Ynys Môn yn lleol dros nifer o flynyddoedd.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol yn 2016 i adeiladu'r 500 o fythynnod gwyliau yn y parc a sefydlwyd ar gyfer y gymuned yn 1971 gan hen ffatri Alwminiwm Môn.

Ond dadleuodd ymgyrchwyr o grŵp Achub Penrhos fod caniatâd cynllunio wedi dod i ben a bod rhaid ailgyflwyno’r datblygiad cyfan ar gyfer caniatâd cynllunio newydd.

Er hynny penderfynodd barnwr y llynedd bod digon o waith wedi'i wneud, gan wrthod dadl y grŵp.

Ym mis Ionawr, dywedodd Jake Webster, rheolwr gyfarwyddwr The Seventy Ninth Group ei fod yn "edrych ymlaen at ddatblygu’r safle yn gyrchfan wyliau o safon fyd-eang ar y cyd â’r gymuned leol, wrth sicrhau ein bod yn gwarchod yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol".

"Ein nod yw rhoi cyfle i deuluoedd o’r Deyrnas Unedig ac ymwelwyr o bob rhan o’r byd brofi’r hyn sydd gan yr ardal wych hon i’w gynnig," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.