Newyddion S4C

Barnwyr llysoedd y goron i eistedd am fwy o ddyddiau

05/03/2025
Cyfiawnder

Bydd barnwyr yn llysoedd y goron yn eistedd am fwy o ddyddiau yn y dyfodol mewn ymgais i daclo'r nifer uchel o achosion.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Shabana Mahmood bydd barnwyr yn eistedd am 110,000 o ddyddiau'r flwyddyn nesaf er mwyn helpu dioddefwyr i gael cyfiawnder yn gynt.

Daw'r cyhoeddiad wrth i adroddiad gael ei gyhoeddi sydd yn rhybuddio bod yr oedi i'r achosion yn y llysoedd yn gwneud y trawma yn waeth i'r dioddefwyr.

Mae nifer yn teimlo bod cael cyfiawnder "allan o'u cyrraedd" medd yr adroddiad gan Gomisiynydd Dioddefwyr, Y Farwnes Newlove.

Ddiwedd Medi'r llynedd roedd dros 73,000 o achosion heb eu datrys yng Nghymru a Lloegr.

Yn ôl adroddiad arall gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin mae yna bryderon bod gweinidogion yn "derbyn" y bydd y pentwr uchel o achosion yn parhau i gynyddu. 

Mae'r ddogfen yn nodi bod yna bryder y bydd y llywodraeth yn disgwyl tan fod canlyniadau Adolygiad Leveson yn cael eu cyhoeddi cyn cynllunio newidiadau i daclo'r broblem.

Y disgwyl yw y bydd yr adolygiad gan Syr Brian Leveson fydd yn edrych ar adolygu'r system llysoedd yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn.

Dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, Syr Geoffrey Clifton-Brown: "Mae ein hadroddiad yn feirniadaeth lem o'n system gyfiawnder ac mae yna angen i'r llywodraeth ar frys i'w aildrefnu i geisio i ymgyrraedd at y safon byd enwog roedd ein system ym Mhrydain yn arfer bod."

Croesawu'r newyddion y bydd barnwyr yn medru eistedd am fwy o ddyddiau wna Llywydd Cymdeithas y Gyfraith Lloegr a Chymru, Richard Atkinson.

"Ond dyw'r dyddiau eistedd dal ddim yn yr uchafswm mae'r Arglwyddes Brif Ustus wedi dweud sydd yn bosib,"meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.