Y chwaraewr tennis Raducanu ‘prin yn gallu anadlu' ar ôl sylwi ar stelciwr
Mae Emma Raducanu wedi dweud nad oedd hi'n gallu “gweld y bêl trwy ddagrau” a phrin roedd hi'n "gallu anadlu” ar ôl gweld stelciwr yn y dorf mewn pencampwriaeth tennis fis diwethaf.
Roedd Raducanu wedi cynhyrfu ac wedi dechrau crio ar ôl gweld y dyn yn y dorf yn ystod yr ail rownd ym Mhencampwriaeth Agored Dubai.
Cafodd y dyn ei symud a chafodd orchymyn atal yn ddiweddarach gan yr heddlu.
“Roeddwn i’n amlwg yn ofidus iawn” meddai wrth y BBC.
“Gwelais ef yn gêm gyntaf y rownd ac roeddwn yn meddwl nad oeddwn i’n mynd i allu gorffen y gêm.”
“Yn llythrennol, allwn ddim gweld y bêl trwy ddagrau. Prin oeddwn i yn gallu anadlu. Roeddwn i’n dweud wrth fy hun bod angen i mi bwyllo.”
Diogelwch
Mae'n dweud ei bod yn annhebygol o fuddsoddi mewn diogelwch preifat mewn twrnameintiau yn y dyfodol ond ei bod yn cymryd mwy o gamau i fod yn ddiogel.
“Rwy’n meddwl fy mod wedi cael mwy o sylw a mwy o ddiogelwch ers y digwyddiad hwnnw.”
“Rwy’n credu mai’r cyfan y gallwn ei wneud yw edrych ar yr hyn a ddigwyddodd ac ymateb iddo mewn ffordd well, mewn ffordd fwy cadarnhaol, yn hytrach nag edrych yn ôl a beio’r sefyllfa.”
“Fe allai’r sefyllfa fod wedi cael ei drin yn well, ond nawr mae’n cael ei drin yn well felly i mi mae hynny’n bwysig,” meddai yn ystod y cyfweliad gyda'r BBC.
Fe aeth y dyn at Raducanu ger gwesty’r chwaraewr yn Dubai y diwrnod cyn ei gêm ail rownd yn erbyn Karolina Muchova.
Rhoddodd lythyr iddi a thynnu ei llun. Roedd hyn wedi gwneud Raducanu yn anniddig gan ei bod wedi bod yn ymwybodol o'i bresenoldeb mewn twrnameintiau yn Singapore, Abu Dhabi a Doha yn yr wythnosau blaenorol.
Er iddi roi gwybod i aelod o'i thîm, ni chafodd y wybodaeth ei throsglwyddo i'r WTA na'r twrnament tan y diwrnod canlynol. Dim ond ychydig oriau oedd gan y staff diogelwch wedyn i baratoi.
Mae Raducanu wedi dod yn wyneb adnabyddus ar ôl iddi ennill Bencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau fel merch 18 oed yn 2021.