Rhyddhau dynes wedi marwolaeth plentyn ger Caerfyrddin
04/03/2025
Mae dynes 41 oed a gafodd ei holi ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol ar ôl marwolaeth merch 4 oed ger Caerfyrddin wedi ei rhyddhau.
Parhau mae ymchwiliad yr heddlu i farwolaeth y ferch yn Llangynnwr, Sir Gaerfyrddin.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw ar 20 Chwefror ac fe gafodd y ferch ei chludo i’r ysbyty, ond bu farw’n ddiweddarach.