Newyddion S4C

Cyhuddo dyn o lofruddio menyw yn Abertawe

04/03/2025
Leanne Williams

Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddio menyw yn Abertawe ddiwedd mis Chwefror. 

Daeth yr heddlu o hyd i gorff Leanne Williams, 47 oed, yn ei chartref yn Stryd Gomer yn ardal Townhill yn y ddinas tua 14:00, ddydd Iau 27 Chwefror.

Mae Matthew Battenbough, 33 oed, wedi ei gyhuddo o’i llofruddio ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe fore Mercher. 

Mae dyn arall, 41 oed, a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Ms Williams wedi ei ryddhau. 

Dywedodd Heddlu’r De na fyddan nhw’n cymryd camau pellach yn erbyn y dyn. 

Maen nhw’n dweud fod archwiliad post mortem gan y Swyddfa Gartref wedi nodi anafiadau sylweddol a oedd yn gyson ag ymosodiad.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark O’Shea eu bod yn parhau i geisio deall symudiadau olaf Ms Williams cyn iddi farw. 

Mae’r llu yn ceisio datrys beth ddigwyddodd i Ms Williams yn ystod y cyfnod rhwng 18.00 nos Lun, 24 Chwefror, pan gafodd ei symudiadau olaf eu cofnodi a 14.20 brynhawn dydd Iau, 27 Chwefror, pan gafodd ei darganfod yn farw. 

Mae Heddlu De Cymru bellach yn apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal yr adeg honno, neu unrhyw un sydd â delweddau CCTV neu dashcam i gysylltu â nhw. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.