Newyddion S4C

Iechyd corfforol a meddyliol pobl Cymru wedi 'dirywio' medd arolwg

05/03/2025
Iechyd meddwl

Mae dros hanner o bobl Cymru wedi dweud bod eu hiechyd corfforol wedi dirywio yn ddiweddar – gyda nifer pellach yn dweud bod eu hiechyd meddyliol wedi gwaethygu hefyd. 

Yn ôl arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, fe ddywedodd 53% o bobl bod eu hiechyd corfforol wedi gwaethygu dros y tair blynedd diwethaf. 

Fe ddywedodd 36% bod eu hiechyd meddyliol wedi gwaethygu yn ystod yr un cyfnod hefyd.

Fe ddaw hynny er bod llawer o bobl (63%) wedi dweud mai ymarfer corff oedd un o'r prif bethau oedd yn cael effaith positif arnyn nhw. 

Yn ôl Dr Paul Pilkington, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus sy'n arwain ar weithgarwch corfforol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r arolwg yn dangos bod pobl yn deall y budd o wneud ymarfer corff. Er hynny meddai “efallai nad yw eu hamgylchedd yn eu galluogi i fod yn egnïol.”

'Newidiadau dyddiol'

Mae’r arolwg hefyd yn dweud bod yna “angen brys am weithredu” i greu amgylchedd sy'n cefnogi gwell iechyd a llesiant pobl. 

Roedd 74% wedi dweud bod bod ym myd natur neu yn yr awyr agored yn cyfrannu at y ffordd roedden nhw'n teimlo tra bod 58% wedi dweud mai amgylchedd eu cartref oedd yn bwysig.

Fe ddywedodd 42% o bobl bod eu mynediad at wasanaethau gofal iechyd yn cael effaith negyddol arnyn nhw. Dyma oedd y prif beth oedd yn pryderu'r rhai a gafodd eu holi.

Mae Dr Paul Pilkington yn annog pobl i wneud “newidiadau dyddiol bach meddylgar” fel cerdded am 10-15 munud, er mwyn teimlo’n fwy egnïol. 

Ychwanegodd Emily van de Venter, Ymgynghorydd Gwella Iechyd sy'n arwain ar lesiant meddyliol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Gall gweithredoedd bach, bob dydd — fel cynnal ffiniau iach gyda'n dyfeisiau digidol, cysylltu ag eraill, neu neilltuo amser ar gyfer y pethau rydyn ni'n eu mwynhau — ein helpu ni i gyd i deimlo'n well."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.