Newyddion S4C

Trigolion cefn gwlad wedi eu ‘brawychu’ wrth i wasanaethau lleol ‘ddiflannu un wrth un’

Newyddion S4C 04/03/2025

Trigolion cefn gwlad wedi eu ‘brawychu’ wrth i wasanaethau lleol ‘ddiflannu un wrth un’

Mae Aelod Seneddol wedi beirniadu penderfyniad Heddlu Dyfed-Powys i gau a gwerthu chwe swyddfa o fewn yr awdurdod. 

Mae’n rhan o gynllun tair blynedd i arbed £10 miliwn o bunnau ac i foderneiddio a gwella gwasanaethau. 

Fe fydd swyddogion yn symud i weithio mewn canolfannau sy’n cael eu defnyddio gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Yn ôl yr aelod Seneddol dros Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe, chlywodd e ddim am y cynlluniau tan iddo dderbyn e-bost yn cadarnhau’r penderfyniad.

Mae David Chadwick A.S. yn feirniadol o’r llu am beidio â chyfathrebu o flaen llaw ynglŷn â phenderfyniad fydd yn cael effaith ar ei etholaeth, gyda swyddfeydd Crucywel a’r Gelli Gandryll yn cau.

Mae’r penderfyniad yn rhan o strategaeth sy’n ystyried defnydd ystadau’r llu dros gyfnod o ddeng mlynedd.  

Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn mae cyflwr yr adeiladau wedi dirywio. 

“Mae nifer o’r adeiladau ar draws rhanbarth heddlu Dyfed-Powys sydd yn ardal eang, yn dwy rhan o dair o dirwedd Cymru, wedi heneiddio ac mae angen buddsoddiad sylweddol yn rhan o’r ardaloedd yma," meddai.

 "Felly mae ‘na benderfyniad i fynd i gyd-weithio nawr gyda’r Frigad Dân, i sicrhau bod adnoddau’n dal yn gweithio o fewn y gymuned ond mewn lleoliad gwahanol.”

Image
Heddlu

Gorsafoedd fydd yn cau

Arberth

Symud i Orsaf Dân Arberth. Os oes angen siarad â rhywun yn bersonol, y cownter blaen agosaf fydd Gorsaf Heddlu Hwlffordd.

Llanfyllin

Symud i Oorsaf Dân Llanfyllin. Os oes angen siarad â rhywun yn bersonol, y cownter blaen agosaf fydd Gorsaf Heddlu'r Drenewydd.

Y Gelli Gandryll:

Symud i Orsaf Dân Y Gelli Gandryll. 

Os oes angen siarad â rhywun yn bersonol, y cownter blaen agosaf fydd Gorsaf Heddlu Aberhonddu.

Crucywel:  

Symud i orsaf Dân Crucywel. 

Os oes angen siarad â rhywun yn bersonol, y cownter blaen agosaf fydd Gorsaf Heddlu Aberhonddu.

Llandeilo

Symud i Orsaf Dân Llandeilo.

Os oes angen siarad â rhywun yn bersonol, y cownter blaen agosaf fydd Gorsaf Heddlu Caerfyrddin.

Llanymddyfri

Symud i Orsaf Dân Llanymddyfri

Os oes angen siarad â rhywun yn bersonol, y cownter blaen agosaf fydd Gorsaf Heddlu Caerfyrddin.

Image
Crucywel
Crucywel, Powys

Er y bydd swyddfeydd yn cau yn Arberth, Llandeilo, Llanymddyfri, Crucywel, Y Gelli Gandryll a Llanfyllin, mae’r Heddlu yn tanlinellu y bydd ymuno â chanolfanau’r frigad dân yn cadw presenoldeb o fewn pob un o’r trefi yma. Maen nhw'n dweud y bydd swyddfeydd gyda gwasnaeth cownter blaen mewn trefi cyfagos.

Ond poeni am y diffyg cyfathrebu a’r ergyd i wasanaethau y mae David Chadwick A.S sy'n cynrychioli Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe.

“Ni’n byw mewn ardal wledig. A ry’ ni’n gweld ein gwasanaethau yn diflannu o un i un ac mae pobl wedi eu brawychu gan hynny. Ond yr hyn sy’n fy mhoeni i fwyaf yw nad yw’r penderfyniad hwn wedi ei drafod gyda ni o flaen llaw,” meddai. 

Tra’n deall y pryderon, mae Dafydd Llywelyn yn tanlinellu na fydd presenoldeb y swyddogion yn dirywio;

“Beth sy’n bwysig i ddweud yw bod y swyddfeydd yma ddim yn agored i’r cyhoedd, mae nhw’n ardaloedd neu’n fan gwaith i swyddogion timau plismona bro a bydd y swyddogion hynny’n dal yn weithgar yn y gymuned ac yn weledol yn y gymuned ond yn gweithio allan o ganolfan wahanol gyda’r Frigad Dân ac yn cydweithio gydag asiantaeth arall yn y gymuned.”

Ychwanegodd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Richard Lewis y byddai cau’r swyddfeydd yn “gam ymlaen i foderneiddio a gwella gwasanaethau, er mwyn galluogi swyddogion i barhau â’u gwaith yn fwy effeithlon.”

Roedd yna boeni ymhlith rhai trigolion lleol yn Llandeilo. 

Dywedodd un sydd wedi byw yn yr ardal erioed nad oedd swyddogion i’w gweld yn ddigon aml;

“Licen i weld rhagor. Gwedwch bo' chi’n cerdded lawr dre, bo chi’n gweld rhywun yn dod i gwrdd â chi a bo' chi’n gwybod bod rhywun yno yndife. Sai’n credu bod nhw rownd cymaint a be we’ nhw.”

Yn ôl comisiynydd y llu, mae 85% o’r gyllideb flynyddol sy’n agos at £150 o filiynau o bunnau yn mynd ar aelodau staff, a bod ‘na gynnydd wedi bod yn nifer y swyddogion rheng flaen yn ystod ei gyfnod wrth y llyw.

Gweld y presenoldeb corfforol hwnnw mae’n ymddangos sy’n bwysig i bobl yn lleol - yn bwysicach o bosibl nag adeiladau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.