Llanwnda: Gwrthod cais i droi cabanau gwyliau yn dai fforddiadwy
Mae cynllun i droi hen gabanau gwyliau ar safle gwesty yng Ngwynedd yn dai fforddiadwy wedi cael ei wrthod.
Roedd y cais yn ymwneud ag adeilad sy'n gysylltiedig â'r hen westy'r Stables yn Llanwnda ger Caernarfon.
Fe wnaeth y gwesty gau yn 2019.
Pleidleisiodd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd i wrthod y cais yn unol ag argymhellion y swyddog cynllunio mewn cyfarfod ddydd Llun.
Gobaith y datblygwyr oedd creu 10 uned breswyl fforddiadwy ar y safle.
Dywedodd swyddog cynllunio Cyngor Gwynedd, Keira Sweenie, nad oedd adroddiad strwythurol wedi ei dderbyn gan y datblygwyr, nac unrhyw dystiolaeth wedi ei ddarparu i brofi angen lleol.
Nid oedd y cynlluniau chwaith yn bodloni nifer o feini prawf polisi, gan gynnwys un yn ymwneud â newid defnydd eiddo yng nghefn gwlad.
Nid oedd y cartrefi newydd chwaith yn bodloni safonau datblygu ac ansawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer tai fforddiadwy newydd ac roeddent yn “gyfyng” o ran maint.
Roedd polisi cynllunio hefyd yn gofyn am “dystiolaeth” nad oedd defnydd yr adeilad bellach yn hyfyw.
Datblygwyr
Siaradodd Neil Foxall, cyfarwyddwr yn NJ Planning Ltd, ar ran y datblygwyr MSK Properties Anglesey Ltd yn y cyfarfod.
Dywedodd nad oedd “unrhyw gyfathrebu” wedi bod gyda swyddogion cynllunio “er gwaethaf anfon e-byst a gadael negeseuon ffôn”.
Gan gyfeirio at “argyfwng tai” Gwynedd dywedodd y gallai’r safle “ddarparu tai fforddiadwy mawr eu hangen ar safle tir llwyd a ddatblygwyd o’r blaen sydd, meddai, ar ôl bod ar y farchnad yn flaenorol, “heb ei ganfod yn hyfyw fel llety gwyliau”.
Ond dywedodd yr aelod lleol y Cynghorydd Llio Elenid Owen nad oedd y cynllun yn “ddatblygiad addas”.
“Rwy’n credu’n gryf ei fod yn groes i angen lleol. Mae llawer o bobl ym Methesda Bach a Llanwnda wedi nodi eu hanfodlonrwydd gyda’r cais cynllunio hwn,” meddai.
Roedden nhw wedi mynegi pwyntiau “dilys” ac “arwyddocaol iawn” ynglŷn â’r effaith y byddai’r datblygiad yn ei gael ar y pentref a’r gymuned, meddai.
Ychwanegodd nad oedd tystiolaeth o angen lleol, y byddai effaith ar yr iaith Gymraeg a bod y cynllun yn groes i bolisïau cynllunio.
“Nid yw’r datblygwyr wedi rhoi llawer o ystyriaeth i’r cais cynllunio hwn nac wedi ystyried barn trigolion lleol. Ni allaf ei gefnogi," ychwanegodd.
Cynigiodd y Cynghorydd Edgar Owen ei wrthod gan ddweud: “Mae'n ymddangos bod y cais hwn wedi'i daflu at ei gilydd, ai dyma'r cyntaf iddyn nhw?
"Doedd ganddo ddim gobaith mynd drwodd.”
Gan eilio, esboniodd y Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths ei rhesymau dros wrthod - gan ei bod yn pryderu am geisio “cadw’r safonau” i drigolion Gwynedd i fyw mewn cartrefi addas.
“Mae’r gwrthwynebiad lleol hefyd yn arwyddocaol iawn,” ychwanegodd.