'Heriau yn parhau o hyd' yn adran brys ysbyty yn y de
Mae “heriau yn parhau o hyd” o fewn adran brys ysbyty yn y de, yn ôl arolygiad.
Mae staff Ysbyty Treforys yn Abertawe yn gweithio dan amodau heriol mewn “adran orlawn” yn ôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC). Mae hynny’n cael effaith ar ddiogelwch cleifion, medden nhw.
Cafodd arolygiad dirybudd o adran achosion brys yr ysbyty ei gynnal ym mis Tachwedd 2024, a oedd yn cynnwys yr adran frys i blant.
Dywedodd yr arolygwyr mai oedi wrth drosglwyddo cleifion i dderbyn triniaeth briodol oedd wrth wraidd y problemau yn yr adran achosion brys.
Roedd “llif cleifion gwael drwy’r ysbyty, hyd at adeg rhyddhau’r cleifion o’r ysbyty” wedi creu rhwystredigaeth ymhlith pobl oedd yn disgwyl i dderbyn triniaeth hefyd.
“Mae llif cleifion yn broblem a gydnabyddir ar lefel genedlaethol, sy'n cael ei achosi gan bwysau ym mhob rhan o'r system,” medd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Ond fe nododd yr arolygiad bod angen i’r ysbyty wella'r ffordd y maen nhw’n delio â thwf yn nifer y cleifion yn yr adran er mwyn ymdopi â heriau o’r fath.
Roedd gorlenwi ardaloedd nad oedd yn faeau yn peri risg i ddiogelwch cleifion gan nad oedd clychau ar gael i bobl canu pe bai 'na argyfwng.
Pwysau
Dywedodd yr arolygwyr na chawson nhw sicrwydd fod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe brosesau effeithiol ar waith i reoli risgiau, dyrannu staff yn briodol, a chynnal asesiadau risg yn yr ardaloedd hyn.
Maen nhw hefyd yn dweud fod angen gwella'r broses o reoli a rhoi meddyginiaethau. Roedd cadw meddyginiaeth mewn droriau oedd heb eu cloi a diffyg llefydd tawel a glân i nyrsys baratoi meddyginiaeth heb ymyrraeth ymhlith rhai o’r prif broblemau.
Roedden nhw hefyd wedi nodi bod staff bob amser yn trin cleifion gyda phroffesiynoldeb a pharch.
Ychwanegodd bod ymdrechion i wella llif cleifion, gan gynnwys cyflwyno'r Uned Asesu Pobl Hŷn ac atgyfeiriadau uniongyrchol gan feddygon teulu, wedi helpu i leihau'r pwysau yn yr adran ond bod oedi wrth ryddhau cleifion yn parhau i gael effaith.
Mae’r ysbyty wedi bod yn wynebu heriau yn yr adran brys ers cryn gyfnod. Fis Hydref y llynedd fe gyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe bod adran brys Ysbyty Treforys dan “bwysau aruthrol.”
Yn gynharach ym mis Ebrill y flwyddyn honno, fe gyhoeddodd y bwrdd bod cleifion yn aros am 15 awr cyn cael eu gweld.