Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr 'wedi sefydlogi ond angen gwelliannau ar frys'
Mae adroddiad newydd yn dod i'r casgliad bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi sefydlogi ers cael ei roi mewn mesurau arbennig ddwy flynedd yn ôl.
Ond mae meysydd bresgus o fewn y bwrdd iechyd yn parhau o hyd, sy'n gysylltiedig â pherfformiad gweithredol a gwasanaethau clinigol.
Mae angen gwneud gwelliannau pellach yn y meysydd hynny "ar frys" medd awduron yr adroddiad ar ran Llywodraeth Cymru.
Mesurau arbennig
Ar ddiwedd Chwefror 2023, cafodd y bwrdd iechyd ei godi i fesurau arbennig (lefel 5). Roedd hyn mewn ymateb i "bryderon sylweddol am lywodraethu, arweinyddiaeth a pherfformiad."
Yn ôl yr adroddiad, fe gafwyd cynnydd ym maes llywodraethu corfforaethol, rheolaeth a llywodraethu ariannol ers hynny.
Dros y 12 mis diwethaf mae'r system rheoli ansawdd "wedi dechrau dangos gafael a rheolaeth well" medd yr adroddiad.
"Mae'r ffocws a roddwyd i'r meysydd hyn gan y cadeirydd, yr aelodau annibynnol, y prif weithredwr a'r cyfarwyddwyr gweithredol wedi cael effaith ond... mae meysydd o fregusrwydd parhaus o hyd, sy'n gysylltiedig â pherfformiad gweithredol a gwasanaethau clinigol, lle mae angen gwneud gwelliannau pellach ar frys."
Perfformiad a chanlyniadau
Mae perfformiad gweithredol yn faes heriol i'r bwrdd iechyd, yn ôl yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru.
Cafwyd cynnydd mewn rhai meysydd, "ond mae angen mwy o ffocws a chamau gweithredu i sicrhau mynediad amserol i ofal ar gyfer pobl ledled y gogledd.
"Mae perfformiad o ran canser islaw'r targed o hyd a rhaid i'r bwrdd iechyd fynd i'r afael â'r ôl-groniad yn nifer y bobl sy'n aros mwy na 62 diwrnod i ddechrau triniaeth ddiffiniol.
"Mae heriau mewn gwasanaethau fel wroleg a dermatoleg wedi effeithio ar berfformiad yn erbyn y targed 62 diwrnod", yn ôl yr adroddiad.
Mae modd darllen yr adroddiad llawn yma.