Difa ci wedi digwyddiad mewn pentref ym Mhen Llŷn
04/03/2025
Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud bod ci wedi ei ddifa yn dilyn digwyddiad mewn pentref ym Mhen Llŷn.
Roedd nifer o geir yr heddlu wedi eu gweld tu allan i dafarn y Llong yn Edern fore dydd Llun.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi derbyn galwad ychydig cyn 21:50 nos Sul am ddigwyddiad yn ymwneud â chi oedd yn rhydd ar Lôn Gerddi yn Edern.
Fe ddaeth yr heddlu o hyd i'r ci ychydig wedi 08:00 fore dydd Llun.
Mae'r ci wedi cael ei ddifa gan filfeddyg meddai'r heddlu.
Nid oedd datganiad yr heddlu'n dweud os oedd unrhyw un wedi cael ei anafu gan y ci.