Trump yn atal cymorth milwrol yr Unol Daleithiau i Wcráin
Mae Donald Trump wedi atal holl gymorth milwrol yr Unol Daleithiau i Wcráin gan gynnwys arfau a cherbydau.
Dywedodd llefarydd ar ran y Tŷ Gwyn eu bod yn “oedi ac yn adolygu ein cymorth i sicrhau ei fod yn cyfrannu at gael ateb”.
Yr Unol Daleithiau sydd wedi bod y ffynhonnell fwyaf o gymorth milwrol i Wcráin, gan gynnwys arfau, offer a chymorth ariannol, ers dechrau'r rhyfel rhwng Wcráin a Rwsia.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl cyfarfod dramatig yn y Tŷ Gwyn ddydd Gwener pan ddywedodd Donald Trump wrth Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, ei fod yn “gamblo gyda” trydydd rhyfel byd.
Dywedodd wrth arlywydd Wcráin i ddod yn ôl “pan fydd yn barod am heddwch”.
Daw hefyd oriau yn unig ar ôl i Trump feirniadu Zelensky am ddweud bod diwedd y rhyfel â Rwsia yn “bell iawn, iawn i ffwrdd”.
Yn y cyfamser, mae Prif Weinidog y DU, Keir Starmer, wedi cyhoeddi cynllun pedwar pwynt i weithio gydag Wcráin i ddod â'r rhyfel i ben ac amddiffyn y wlad rhag Rwsia.
“Rhaid i ni ddysgu o gamgymeriadau’r gorffennol” meddai, “ni allwn dderbyn cytundeb gwan y gall Rwsia ei dorri’n hawdd, yn lle hynny rhaid i unrhyw gytundeb gael ei gefnogi gan gryfder,”
Ychwanegodd y byddai'r DU yn cefnogi ei hymrwymiad gydag "esgidiau ar y llawr, ac awyrennau yn yr awyr".
Fe awgrymodd arweinwyr Ewropeaidd ar ôl uwchgynhadledd ddydd Sul na allan nhw warantu heddwch yn Wcráin heb gymorth yr Unol Daleithiau.
Wrth i'r trafodaethau barhau ar lefel ryngwladol, mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan wedi cyhoeddi datganiad yn cefnogi Wcráin.
"Rwy'n wirioneddol falch bod Cymru wedi rhoi cefnogaeth lawn i Wcráin, o'r eiliad y cafodd y wlad ei goresgyn yn anghyfreithlon ac yn greulon gan Vladimir Putin.
"Gadewch imi fod yn glir, does dim modd cyfiawnhau'r ymosodiad ar Wcráin mewn unrhyw ffordd, a rhaid inni sefyll yn gadarn y tu ôl i'r Arlywydd Zelensky a'r Wcreiniaid.
"Rydym ni yng Nghymru wedi estyn llaw cyfeillgarwch i Wcráin, ac i’w phobl sydd wedi colli eu cartrefi oherwydd ymddygiad ymosodol Rwsia. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i helpu'r bobl sydd wedi cael eu gorfodi i adael eu gwlad.
"Mae ein cydsafiad ag Wcráin a'i phobl yn ddiamwys, a rhaid inni barhau i fod yn gefn i'n ffrindiau yno yn ystod y cyfnod anodd hwn."