
Bwrdd Nant Gwrtheyrn angen ‘dysgu gwersi’ wedi honiadau o 'ddiwylliant gwenwynig'

Bwrdd Nant Gwrtheyrn angen ‘dysgu gwersi’ wedi honiadau o 'ddiwylliant gwenwynig'
Mae’r Aelod Seneddol Liz Saville-Roberts wedi dweud bod angen “dysgu gwersi” yn Nant Gwrtheyrn ar ôl i nifer o weithwyr a chyn-weithwyr godi pryderon am y diwylliant yno.
Yn ystod rhaglen Y Byd ar Bedwar nos Lun, cafodd Bwrdd Ymddiriedolwyr Nant Gwrtheyrn eu cyhuddo o “anwybyddu” pryderon staff am ddiwylliant “afiach a gwenwynig” yno dros y degawd diwethaf.
“Mae’r Nant yn agos iawn at fy nghalon i,” meddai Ms Liz Saville-Roberts. Roedd hi'n un o’r myfyrwyr cyntaf i dderbyn gwersi Cymraeg yn y ganolfan iaith ar ddechrau’r 80au.

Cyn dod yn Aelod Seneddol Plaid Cymru roedd Ms Saville-Roberts yn aelod o Fwrdd Nant Gwrtheyrn.
Y bwrdd sy’n gyfrifol am arian, eiddo a dyfodol Nant Gwrtheyrn.
Dywedodd yr Aelod dros Ddwyfor-Meirionnydd wrth raglen Y Byd ar Bedwar ei bod yn ymwybodol bod cwyn am awyrgylch gwaith Nant Gwrtheyrn wedi codi pan roedd yn aelod o’r Bwrdd, ond ei bod dan yr argraff fod y mater wedi’i ddelio ag e.
“Mi oedd gen i brofiad pan o’n i ar y Bwrdd o ddelio hefo cwestiynau neu gwynion adnoddau dynol sydd yn gwbl briodol. Y gwahaniaeth yn fan hyn ydy’r nifer sydd wedi dod ymlaen.”
‘Rhai gweithwyr yn colli ffydd’
Fe wnaeth rhaglen Y Byd ar Bedwar siarad gyda bron i 30 o gyn-weithwyr a gweithwyr presennol Nant Gwrtheyrn.
Er bod yr unigolyn oedd yn cael ei chyhuddo o greu’r diwylliant gwenwynig yma bellach wedi gadael, dywedodd rhai o weithwyr presennol y ganolfan iaith eu bod wedi “colli ffydd” yn y bwrdd rheoli a'u bod nhw’n ofni cael eu siomi eto yn y dyfodol.
“Mae gwir angen dysgu gwersi ar sut y gwnaethon ni gyrraedd fan hyn. Dwi’n meddwl bod o’n bwysig fod Bwrdd Nant Gwrtheyrn yn edrych ar eu cyfansoddiad a’r bobol sydd arno, eu sgiliau nhw ac yn sicr ar eu prosesau nhw,” meddai Ms Saville-Roberts.
“Mae Nant Gwrtheyrn yn drysor i’r genedl. Mae’n andros o bwysig bod ni’n ffeindio ffordd i barhau hefo ariannu a sicrhau bod y llywodraethu i’r dyfodol o ddelio gyda chwynion sydd di cael eu codi rŵan yn ddigon gwydn i sicrhau bod y trysor yn parhau i fod gyda ni.”
Ymateb y Bwrdd
Mewn datganiad ysgrifenedig fe ddywedodd bwrdd Nant Gwrtheyrn fod gan staff yr hawl i gael eu trin gyda pharch a thegwch, a'u bod nhw wedi cymryd camau i gryfhau’r cysylltiad rhwng aelodau’r bwrdd a’r staff, fel cynnal mwy o gyfarfodydd a chynnal arolwg blynyddol.
Fe ddywedon nhw hefyd nad ydyn nhw’n derbyn fod rhaglen Y Byd ar Bedwar yn adlewyrchu barn staff Nant Gwrtheyrn gan ym mis Ionawr, fe wnaethon nhw gynnal arolwg annibynnol lle maen nhw’n dweud bod y mwyafrif yn hyderus yn eu harweinwyr.
Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Trwbwl yn y Nant ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer